Darlithydd prifysgol yn ennill gwobr am gyfraniad at gefnogi myfyrwyr yn y Gymraeg

Dyddiad: Mehefin, 22, 2026
Mae un o Uwch Ddarlithwyr Nyrsio Prifysgol Wrecsam wedi ennill gwobr sy’n cydnabod ei chyfraniad i gefnogi myfyrwyr yn yr iaith Gymraeg.
Derbyniodd Awel Wynne-Williams y wobr gan Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol mewn seremoni yng Nghaerdydd i anrhydeddu addysgwyr gorau’r wlad yn yr iaith Gymraeg.
Enwebwyd Awel, sy’n darlithio mewn nyrsio plant yn Wrecsam, ac sydd â phrofiad clinigol blaenorol, ar gyfer Gwobr Dathlu'r Darlithydd gan un o’i myfyrwyr, a’i canmolodd am ei thosturi, ei hymagwedd a’i chefnogaeth yn ystod cyfnod anodd.
Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn sefydliad allweddol sy’n hyrwyddo ac yn cefnogi addysg cyfrwng Cymraeg mewn colegau a phrifysgolion ledled Cymru, gan fuddsoddi a chefnogi darpariaeth, adnoddau a staff i ehangu cyfleoedd dysgu drwy’r Gymraeg
Meddai Awel Wynne-Williams: “Ges i sioc wrth dderbyn y newyddion, yn enwedig ar ôl deall mai Llio oedd wedi fy enwebu. Ac i fod yn hollol onest, er ei bod hi’n hyfryd derbyn y wobr hon, y wobr fwyaf i mi yw’r fraint o gael dod i adnabod a chefnogi Llio.
Hyd yn hyn, fy anrhydedd mwyaf yw gweithio gyda myfyrwyr o bob cefndir sy’n gwneud gwahaniaeth i blant a theuluoedd yng Ngogledd Cymru. Er fy mod yn gweithio yn y maes addysg bellach, byddaf wastad yn ystyried fy hun yn Nyrs Plant yn gyntaf. Mae gweld myfyrwyr fel Llio yn ffynnu ac yn rhannu eu caredigrwydd wrth ofalu am eraill yn rhoi ffydd enfawr i mi yn nyfodol ein sector iechyd. Er gwaethaf yr heriau clinigol sy’n codi fwyfwy bob dydd, rwyf yn dyst i ansawdd nyrsys sydd newydd gofrestru sy’n ymuno â’r gweithlu, pobl wych sydd wedi dewis y proffesiwn am y rhesymau cywir ac sy’n benderfynol o wneud gwahaniaeth i fywydau pobl sydd ei angen fwyaf.
Ar ôl gweithio mewn ysbytai plant amrywiol, mae wedi bod yn hyfryd dychwelyd adref i weithio’n agos at fy nghymuned leol, a gwneud hynny drwy gyfrwng y Gymraeg. Pan oeddwn i'n gweithio oddi cartref, doeddwn i ddim yn sylweddoli faint roedd gweithio yn fy mamiaith yn ei olygu i mi, nid yn unig o safbwynt proffesiynol, ond yn bersonol hefyd.
Mae cefnogi myfyrwyr sy’n siarad Cymraeg, yn ogystal ag annog eraill i ddysgu’r iaith, yn rhoi pwrpas ychwanegol a dyfnach i’m gwaith. Mae'n golygu cyfrannu at ddyfodol gwasanaeth iechyd sy'n wirioneddol gynhwysol, yn ddiwylliannol sensitif ac yn adlewyrchu'r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu.
Ar hyn o bryd rwy’n rhan o brosiect gan Brifysgol Wrecsam mewn partneriaeth â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd, sydd wedi’i gomisiynu gan Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae’r prosiect yn pwysleisio bod dwyieithrwydd yn brofiad unigryw i bob unigolyn, ac yn ein hannog i weld y person y tu ôl i’r iaith. Rydym yn wirioneddol obeithio y bydd y prosiect yn llwyddiant ac yn cyfrannu’n gadarnhaol at sgiliau ac agwedd gweithwyr iechyd y dyfodol, gan sicrhau bod ein gwasanaethau’n adlewyrchu anghenion a hunaniaeth ein cymunedau.”
Meddai Elen Mai Nefydd, Dirprwy Is-Ganghellor Cysylltiol dros yr Iaith Gymraeg, Treftadaeth a Diwylliant ym Mhrifysgol Wrecsam: “Roeddwn wrth fy modd yn cyflwyno’r wobr hon i Awel yn dathlu ei chefnogaeth ragorol i fyfyrwyr Cymraeg ym Mhrifysgol Wrecsam. Mae ei gwaith wedi cael effaith sylweddol ar brofiad myfyrwyr’ trwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae'r gydnabyddiaeth hon yn haeddiannol iawn.”