Mam a merch yn graddio o'r un cwrs gradd ym Mhrifysgol Wrecsam

Dyddiad: Awst 28. 2026
Mae mam a merch yn dathlu wedi i'r ddwy raddio gyda'i gilydd o Brifysgol Wrecsam.
Cwblhaodd Katie Stretton, 27, a'i mam Caroline, y ddwy o Wrecsam, radd Nyrsio Iechyd Meddwl yr haf hwn ac maent eisoes wedi cael swyddi yn y sector. Ar ôl blynyddoedd yn gweithio mewn sectorau eraill, maent bellach yn annog eraill i fynd amdani ac ystyried gyrfa ym maes nyrsio.
"Roeddwn i wedi gweithio ym maes manwerthu yn flaenorol," meddai Katie. "Felly roedd hwn yn faes cwbl newydd i mi. Dewisais y cwrs yma am fy mod yn gweld iechyd meddwl yn bwnc diddorol dros ben. Rwyf yn ymddiddori'n fawr yn sut mae'r ymennydd yn gweithio a sut gall effeithio'ch meddyliau, emosiynau ac ymddygiadau. Felly roeddwn eisiau datblygu fy ngwybodaeth a fy nealltwriaeth am rywbeth y mae gen i ddiddordeb gwirioneddol ynddo.
"I ddechrau, fy mam wnaeth awgrymu gwneud y cwrs, ac fe wnaethon ni gytuno i'w gwblhau gyda'n gilydd. Rwyf yn ddiolchgar ei bod wedi fy annog, am nad ydw i'n meddwl y byddwn i wedi cyrraedd lle'r ydw i heddiw heb ei chefnogaeth. Fe wnaeth hi fy ngwthio i gyrraedd fy llawn botensial a rhoddodd yr hyder i mi fynd amdani a rhoi cynnig ar rywbeth newydd."
"Cefais nifer o wahanol swyddi cyn dod i'r brifysgol," ychwanegodd Caroline. "Roeddwn yn gyfarwyddwr siopau ffrogiau priodas ac fe wnes i redeg fy nhafarn fy hun. Yn ystod Covid fe wnes i gychwyn gweithio mewn cartref gofal a chwblhau fy nghymhwyster lefel 2 a 3 mewn iechyd a gofal cymdeithasol. Awgrymodd gydweithiwr y dylen ni fynd i'r coleg ac ennill ein cymwysterau er mwyn mynychu'r brifysgol a dod yn nyrsys iechyd meddwl. Fe wnaeth fy merch ddweud yr hoffai hi wneud y cwrs hefyd, felly fe wnaethon ni ymgeisio a dechrau gyda'n gilydd.
"Fe wnes i fwynhau'r profiad dysgu cyfan o'r diwrnod cyntaf, a daeth gwneud y cwrs gyda fy merch falchder mawr i mi. Mae ganddi ferch ifanc felly roedd yn anod weithiau iddi wneud ei lleoliadau gwaith, ond fe wnaeth hi ddal ati ac rwy'n falch o'r ddwy ohonom. Rwyf mor hapus fod fy merch â gyrfa am oes nawr. Rwy'n gwybod ei bod yn iawn nawr."
“Roedd y cwrs yn anodd i’r ddwy ohonom ar adegau,” ychwanegodd Katie. "Ond roedd cael ein gilydd yn gymorth mawr. Mae fy mam a minnau yn gweithio mewn ffyrdd gwahanol iawn. Roedd hi'n hynod drefnus gyda'i gwaith, tra'r oedd gen i duedd o'i adael tan y funud olaf! Achosodd hyn lawer iawn o straen i fy mam gan ei bod hi'n siŵr na fyddwn i'n gorffen y gwaith mewn pryd! Er gwaethaf y gwahaniaethau yn ein dulliau, roedd yn braf gallu cefnogi ein gilydd.
"Mi fyddwn i'n sicr yn annog pobl eraill i fentro, ac nid yw hi byth yn rhy hwyr i roi cynnig ar rywbeth newydd. Nid oedd gan yr un ohonom syniad i le y byddai'r cwrs yn mynd â ni, ond fe wnaeth y ddwy ohonom ymrwymo i fynd amdani ac mae wedi rhoi gymaint o gyfleoedd newydd i ni.
“Byddwn i’n bendant yn argymell Prifysgol Wrecsam ar gyfer nyrsio iechyd meddwl, ac rwy’n credu bod rhan fawr o hynny oherwydd y tiwtoriaid a gawson ni. Maen nhw wedi bod yn gefnogol iawn a gwnaeth hynny wahaniaeth enfawr i'r profiad cyfan, yn enwedig yn ystod cyfnodau pan oedden ni'n ei chael hi'n anoddach."
Mae Caroline hefyd yn annog eraill i ystyried gwneud gradd yn ddiweddarach mewn bywyd.
“Fe wnes i synnu fy hun drwy allu gwneud gradd fel oedolyn hŷn,” meddai. "Ond rwy'n falch. Roedd yn heriol, ond fe wnaeth y tiwtoriaid ar y cwrs iechyd meddwl fy helpu. Roedden nhw bob amser yno i ateb fy nghwestiynau a'm harwain. Fe fyddaf yn ddiolchgar iddyn nhw am byth a byddaf yn eu colli nhw i gyd yn fawr.
“Fy nghyngor i unrhyw un sydd â breuddwyd yw mynd amdani beth bynnag fo'ch oed. Os allaf i ei wneud, gall unrhyw un."