Myfyriwr “penderfynol” y Gyfraith yn ennill gwobr fawreddog

Date: Dydd Gwener Gorffennaf 7

Mae myfyriwr penderfynol y Gyfraith wedi ennill gwobr fawr ei bri i gydnabod myfyrwyr eithriadol sydd ar fin cychwyn ar flwyddyn olaf eu graddau israddedig.

Mae Beata Choraza, myfyriwr LLB Y Gyfraith ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam (PGW), wedi ennill Gwobr Neuberger, a sefydlwyd gan Ysbytai’r Frawdlys, Lincoln’s Inn, i gydnabod myfyrwyr o ragoriaeth brofedig sydd ar fin dechrau blwyddyn olaf eu graddau israddedig yn Y Gyfraith.

Dyfernir y wobr yn flynyddol i fyfyrwyr israddedig sydd ar fin dechrau blwyddyn olaf gradd gymhwyso yn Y Gyfraith. Ei nod yw integreiddio myfyrwyr gyda’r Inn yn ystod blwyddyn olaf eu gradd gymhwyso yn Y Gyfraith.

Mae cael ei henwi’n enillydd y wobr yn golygu y bydd gan Beata gyfle i fynychu ysgol haf yn Lincoln’s Inn, cael ei pharu â mentor ar gyfer trydedd flwyddyn ei gradd, yn ogystal â derbyn gwobr o £250 a mynediad am ddim i’r Inn.

Dywed Beata bod derbyn Gwobr Neuberger yn “anrhydedd enfawr”.

Meddai: “Rwy’n teimlo’n falch iawn o fod wedi ennill y wobr fawreddog hon - mae’n anrhydedd enfawr. Daeth ennill yn syndod mawr imi, doeddwn i wir ddim yn ei ddisgwyl ond rydw i mor ddiolchgar. Rwy’n arbennig o ddiolchgar i’m darlithwyr, a'm cyflwynodd ar ei chyfer.

“Rydw i nawr yn llawn cyffro o ran y cyfleoedd ddaw gydag ennill y wobr, gan gynnwys yr ysgol haf yn yr Inn ble byddaf yn datblygu fy sgiliau ymhellach, y cyfle i gael mentor ar gyfer blwyddyn olaf fy ngradd, mae hynny’n anhygoel – yn ogystal ag adeiladu fy rhwydwaith. Rydw i’n teimlo mor ddiolchgar am gymaint o wahanol resymau.

“Mae astudio yn PGW wedi bod yn wych i mi. Mae’r gefnogaeth rydych yn ei chael gan eich darlithwyr yn benigamp, ac mae eu dulliau dysgu yn anhygoel.

“Ar nodyn personol, rydw i’n teimlo’n falch o’r hyn rydw i wedi ei gyflawni. Fel mam i ddau o blant, sydd yn astudio a hefyd yn gweithio llawn amser, rwy’n troelli sawl plât ar yr un adeg, ac fe all hi fod yn heriol iawn, ond gyda chefnogaeth fy narlithwyr, yn ogystal â’m teulu, rwy’n gallu gwneud hyn i gyd, a llwyddo hefyd.”

Ychwanegodd Dylan Rhys Jones, Uwch-ddarlithydd ac Arweinydd Rhaglen Y Gyfraith yn PGW: “Rydw i wrth fy modd dros Beata, ac ar ran pawb yn PGW, hoffwn ei llongyfarch ar dderbyn Gwobr Neuberger. Mae hi mor haeddiannol.

“Mae Beata yn fyfyrwraig wirioneddol ragorol  – mae’n benderfynol, yn ymroddedig ac yn hynod frwdfrydig. Mae’r wobr hon yn gyfle gwych iddi, a bydd yr arweiniad a’r cymorth ychwanegol yn amhrisiadwy iddi – wrth iddi agosáu ac yn ystod ei blwyddyn olaf. Da iawn, Beata.”