Myfyrwyr nyrsio yn nodi diwedd eu hastudiaethau gyda digwyddiad emosiynol i ddathlu
Dyddiad: Dydd Mawrth, Awst 12, 2025
Daeth myfyrwyr nyrsio Prifysgol Wrecsam ynghyd â’u darlithwyr ar gyfer dathliad arbennig i nodi cwblhau eu hastudiaethau - a pharatoi at eu camau nesaf o ymuno â gweithlu gofal iechyd y rhanbarth.
Y myfyrwyr yw’r garfan gyntaf i gwblhau eu graddau ar y contract comisiynu Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC), yn dilyn tendr llwyddiannus ar gyfer cyllid yn ôl yn 2022, a arweiniodd at drefniant gweithio mewn partneriaeth rhwng y Brifysgol, AaGIC a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC).
Astudiodd y nyrsys sydd ar fin cymhwyso ar gyrsiau gradd Nyrsio Oedolion, Nyrsio Plant a Nyrsio Iechyd Meddwl y sefydliad. Astudiodd rai ohonynt yng nghampws Plas Coch y Brifysgol yn Wrecsam a rhai yng nghampws Llanelwy.
Yn arwyddocaol i Lanelwy, y garfan yw’r grŵp cyntaf o fyfyrwyr i astudio yn ardal ganolog Gogledd Cymru ers 30 mlynedd.
Dywedodd Karen Griffiths, Prif Ddarlithydd ac Arweinydd Proffesiynol Nyrsio ym Mhlas Coch, campws Wrecsam: “Mae hon yn garreg filltir anhygoel ac yn rheswm mawr i ddathlu gan mai’r grŵp anhygoel hwn o fyfyrwyr yw ein carfan gyntaf i gwblhau eu graddau israddedig nyrsio dan y contract comisiynu AaGIC newydd.
“Mae’n deimlad anhygoel gwybod bod contract ariannu llwyddiannus wedi creu cyfleoedd, nid yn unig i unigolion ddilyn eu huchelgais o ddod yn nyrs ond hefyd i gryfhau GIG ein rhanbarth.”
Dywedodd Jacqueline Mitchell, Prif Ddarlithydd ac Arweinydd Proffesiynol Nyrsio ym Mhlas Coch, campws Wrecsam: “Rydym yn hynod falch o bopeth mae ein myfyrwyr wedi ei gyflawni dros y tair blynedd ddiwethaf - ac yn edrych ymlaen at glywed am eu cyflawniadau tu hwnt i’w hastudiaethau. Dymunwn bob llwyddiant iddynt ar gyfer y dyfodol.”
Dywedodd Alison Lester-Owen, Prif Ddarlithydd ac Arweinydd Proffesiynol Nyrsio yng Nghampws Llanelwy Prifysgol Wrecsam: “Ar gyfer ein myfyrwyr yn Llanelwy, mae’r hon yn foment fwy hanesyddol fyth gan mai’r rbhain yw’r myfyrwyr nyrsio cyntaf i astudio theori ac ymarfer yng nghanol Gogledd Cymru ers dros 30 mlynedd. Nid ystadegyn yn unig yw hwn - mae’n nodyn atgoffa pwerus o sut mae’r gallu i gael mynediad at addysg yn lleol ac yn nes at adref yn gallu bod yn drawsnewidiol i unigolion a chymunedau.
“Rwy’n falch iawn fy mod wedi bod yn rhan o deithiau’r myfyrwyr. Llongyfarchiadau mawr i’r grŵp anhygoel hwn o unigolion, y mae eu hymrwymiad a’u brwdfrydedd drwy gydol y tair blynedd ddiwethaf wedi bod yn ysbrydoledig ac yn fraint. Mae gwneud y swydd hon ochr yn ochr â’r tîm ymroddedig a llawn cymhelliant yn Llanelwy yn fraint o’r mwyaf, gan addysgu nyrsys y dyfodol yn ein rhanbarth a chwarae rhan mewn creu ein gweithlu gofal iechyd lleol.”
Dywedodd yr Athro Paul Davies, Is-ganghellor Prifysgol Wrecsam: “Ym Mhrifysgol Wrecsam, rydym yn hynod falch o’r hyn mae ein myfyrwyr wedi ei gyflawni - nid yn unig yn academaidd, ond y ffordd y maent wedi croesawu gofynion y rhaglen, cefnogi ei gilydd, a pharatoi eu hunain at gamu mewn i swyddi allweddol yn ein system iechyd a gofal.
“Dyma yn union yw’r math o raddedigion y mae’r rhanbarth hwn - a’r proffesiwn nyrsio - eu hangen; cadarn, tosturiol, medrus ac wedi’u gwreiddio’n ddwfn yn y cymunedau y maent am eu gwasanaethu.
“Hoffwn hefyd gymryd y cyfle hwn i ddiolch i’n staff, partneriaid GIG, a’n cydweithwyr yn AaGIC a BIPBC am yr ymrwymiad a’r cydweithrediad sydd wedi gwneud hyn yn bosibl. Mae hwn wir wedi bod yn ymdrech gydweithredol.”
Dywedodd Martin Riley, Dirprwy Gyfarwyddwr Ansawdd a Chomisiynu Addysg yn AaGIC: “Pan gomisiynodd AaGIC y cwrs nyrsio hwn ym Mhrifysgol Wrecsam yn 2022, nid lansio cymhwyster oedd ei unig fwriad. Roedd yn bodloni angen dybryd. Roedd yn ymateb i’r galw brys am nyrsys medrus a thosturiol yn y rhanbarth.
“Mae'r buddsoddiad hwn mewn addysg gofal iechyd yn cynyddu ar gyflymder ysbrydoledig. Rhan o’r weledigaeth oedd lansio darpariaeth addysg gofal iechyd newydd yn Llanelwy, yn ogystal ag yn Wrecsam, gan greu rhagor o gyfleoedd lleol i fyfyrwyr y dyfodol hyfforddi yn agosach at adref.
“Mae’n ymwneud â hygyrchedd, cynaliadwyedd, a sicrhau ein bod yn meithrin gweithlu ar gyfer y gymuned.
“Mae’n golygu meithrin system gofal iechyd sy’n adlewyrchu’r bobl a wasanaethir ganddi. Nyrsys sy’n gallu siarad yr iaith, deall y diwylliant, ac sy’n gallu cynnig gofal tosturiol fel aelodau annatod o’r gymuned. Felly, roedd AaGIC yn falch iawn o weld y graddedigion a gallu myfyrio ar eu taith anhygoel.”
Ychwanegodd Angela Wood, Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio a Bydwreigiaeth BIPBC: “Am ddigwyddiad anhygoel i nodi’r garfan gyntaf o nyrsys i gwblhau eu hastudiaethau ar y contract hwn - ac yng nghanol Gogledd Cymru hefyd, wrth wraidd ein Bwrdd Iechyd.
“Rwy’n ymwybodol o’r ymroddiad sydd ei angen i hyfforddi i fod yn nyrs ac rwy’n llongyfarch bob un o’r rhai a fydd, gyda gobaith, yn dathlu eu graddio yn y dyfodol agos.
“Mae mor bwysig ein bod yn ‘tyfu ein staff ein hunain’. Mae rhoi cyfleoedd i’r rhai sy’n byw yn yr ardaloedd y maent yn eu gwasanaethu yn allweddol i ni roi’r gofal gorau, gyda’r parhad staffio gorau. Mae’r egwyddor honno o fyw, dysgu, gwaith mor bwerus.
“Mae’r rhai sy’n dod i mewn o du allan i’n rhanbarth i weithio yma yn gwneud gwaith gwych ac rydym yn gwerthfawrogi pob un cydweithiwr. Ond mae darparu cyfleoedd i’r rhai sydd eisoes yn byw yn ein plith i gamu i mewn i’r byd nyrsio yn bwysig iawn o ran ein helpu i gael ein gweld fel rhan o'r cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu.”
- Mae amser o hyd i wneud cais ar gyfer carfan mis Medi 2025 ar gyfer y graddau Nyrsio Oedolion a Nyrsio Iechyd Meddwl ym Mhrifysgol Wrecsam. Gallwch ddysgu rhagor yma.