Nyrsio ym Mhrifysgol Wrecsam ar y brig yn y DU o ran boddhad myfyrwyr

Dyddiad: Dydd Mercher, Mehefin 25, 2025
Nyrsio ym Mhrifysgol Wrecsam ar y brig yn y DU o ran boddhad myfyrwyr yn y Canllaw Prifysgol Cyflawn 2026.
Mae'r Canllaw hefyd wedi rhestru'r sefydliad yn gydradd gyntaf yn y DU - a'r cyntaf yng Nghymru - o ran rhagolygon graddedigion yn nhabl cynghrair pynciau Nyrsio.
Mae Prifysgol Wrecsam yn cynnig cyrsiau Nyrsio BN (Anrh) mewn Nyrsio Oedolion, Nyrsio Plant a Nyrsio Iechyd Meddwl ar ei champysau yn Wrecsam a Llanelwy..
Dywedodd yr Athro Joe Yates: "Rwyf wrth fy modd bod Nyrsio ym Mhrifysgol Wrecsam wedi'i rhestru ar y brig yn y DU o ran boddhad myfyrwyr, yn ogystal â bod yn gydradd gyntaf yn y Du am ragolygon graddedigion yn nhabl cynghrair pynciau Nyrsio, yn y Canllaw Prifysgol Cyflawn 2026.
"Rydym yn hynod o falch o'n henw da cryf o ran boddhad myfyrwyr, yma yn Wrecsam - ac mae'r rhestrau diweddaraf hyn yn dangos bod ein staff yn mynd yr ail filltir i gefnogi a grymuso ein myfyrwyr ym mhopeth a wnânt.
"Mae'r gydnabyddiaeth hon yn siarad yn uniongyrchol â chraidd ein Gweledigaeth a'n Strategaeth ar gyfer 2030, sydd wedi'i wreiddio mewn darparu profiad myfyrwyr, yn ogystal â pharatoi ein graddedigion i ffynnu yn eu gyrfaoedd dewisol. Mewn proffesiynau fel nyrsio, lle mae galw cynyddol am weithwyr proffesiynol meddylgar a medrus, rydym yn falch o fod yn arwain y ffordd yn genedlaethol.
"Llongyfarchiadau i'n cydweithwyr nyrsio, sy'n gweithio'n ddiflino i ddarparu profiad rhagorol i'n myfyrwyr."
- Mae rhai lleoedd ar gael ar gyrsiau gradd Nyrsio Oedolion a Nyrsio Iechyd Meddwl y Brifysgol, sy'n dechrau ym Mis Medi.
- Gallech fod yn gymwys i gael bwrsariaeth GIG wedi'i hariannu'n llawn i gefnogi eich astudiaethau, dysgwch fwy yma: wrexham.ac.uk/cy/cyllid-y-gig/
- P'un a ydych chi heb benderfynu'n iawn ble i astudio neu hyd yn oed a yw prifysgol yn iawn i chi, dewch i weld beth sydd gennym i'w gynnig yn ein diwrnod agored nesaf, a gynhelir ddydd Gwener, Awst 15, rhwng 10am a 2pm. Archebwch eich lle yma: wrexham.ac.uk/cy/ymweld/digwyddiadau-israddedig/