Nyrsys dan hyfforddiant ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam yn cefnogi Apêl Bocs Esgidiau Nadolig

Student nurses with decorated Christmas Shoeboxes

Date: Rhagfyr 2022

Mae carfan newydd o nyrsys dan hyfforddiant, ynghyd â staff ar gampws Llanelwy Prifysgol Glyndŵr Wrecsam wedi casglu bocsys esgidiau a rhoddion teganau i gefnogi elusen yng Ngogledd Cymru sy'n cefnogi pobl sydd wedi dioddef cam-drin domestig.

Derbyniodd y myfyrwyr ddarlith yn ddiweddar fel rhan o'u cwrs Nyrsio gan y tîm yn yr Uned Diogelwch Cam-drin Domestig (DASU).

Penderfynodd y nyrsys dan hyfforddiant, sydd wedi'u lleoli yng Nghanolfan OpTIC yn Llanelwy, ar ôl clywed am y gwaith a wnaed gan yr elusen a gwnaethant addewid i wneud yr hyn a allan nhw yn y cyfnod cyn y Nadolig i gefnogi'r elusen.   

Maent wedi casglu rhoddion ac wedi gwneud bocsys esgidiau sy'n cynnwys hanfodion a danteithion i'w rhoi i ddefnyddwyr y gwasanaeth, ynghyd â chasglu rhoddion teganau i'w rhoi i blant sy'n cael eu cefnogi gan yr elusen. 

Christmas Shoeboxes filled with gifts.

Meddai Alison Lester-Owen, Prif Ddarlithydd ac Arweinydd Proffesiynol mewn Nyrsio ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam: "Rydym yn falch iawn o helpu i hwyluso'r gweithgarwch hwn sy'n cael ei arwain gan fyfyrwyr sy'n cefnogi gwaith hanfodol yr elusen wych hon. Rydym fel tîm yn falch o'r gwaith a'r ymdrechion y mae ein myfyrwyr wedi'u gwneud i wneud i hyn ddigwydd." 

Elusen yw DASU yng Ngogledd Cymru sy'n cefnogi dynion, menywod a phlant sydd wedi dioddef cam-drin domestig. 

Mae DASU yn cynnig gwasanaethau cyfrinachol am ddim, gan ddarparu cymorth ymarferol ac emosiynol, rhaglenni adfer a llety lloches. 

Dywedodd llefarydd ar ran DASU: "Rydym mor ddiolchgar am haelioni myfyrwyr Prifysgol Glyndŵr Wrecsam, a bydd yr anrhegion sy'n cael eu darparu yn cael eu dosbarthu i gleientiaid yn ein llochesau ac yn y gymuned." 

Os ydych chi, neu unrhyw un rydych chi'n ei adnabod, yn profi cam-drin gan bartner neu aelod o'r teulu, gallwch ffonio DASU ar 0333 3600483 neu anfon e-bost at info@dasunorthwales.co.uk. Gallwch hefyd ffonio Llinell Gymorth Byw Heb Ofn ar 0808 8010 800. Os ydych mewn perygl uniongyrchol, ffoniwch 999.