Pobl ifanc ledled Gogledd Cymru ar fin dathlu eu llwyddiannau yn seremonïau graddio Prifysgol y Plant

Date: Dydd Iau, Chwefror 15, 2024

Dros y pythefnos nesaf, bydd mwy na 600 o ddysgwyr ifanc trwy’r rhanbarth yn gwisgo’u gynau ac yn graddio o Brifysgol y Plant Gogledd Cymru ar ôl llwyddo i gwblhau amrywiaeth o brofiadau a gweithgareddau dysgu allgyrsiol.

Bwriad y seremonïau arbennig, a gynhelir mewn tair ardal yng Ngogledd Cymru (sef Wrecsam a Sir y Fflint, Conwy a Sir Ddinbych, a Gwynedd ac Ynys Môn) yw dathlu llwyddiannau’r plant a’r bobl ifanc a gymerodd ran ym menter Prifysgol y Plant.

Mae cynllun ysbrydoledig Prifysgol y Plant yn dathlu’r arfer o gymryd rhan mewn gweithgareddau dysgu a chyfleoedd y tu allan i oriau ysgol trwy annog plant a phobl ifanc i roi cynnig ar brofiadau dysgu newydd, mewn ymgais i feithrin cariad gydol oes at ddysgu a dyrchafu eu dyheadau.

Bydd disgyblion o 39 o ysgolion ledled Gogledd Cymru yn graddio mewn pedair seremoni, lle bydd eu llwyddiannau’n cael eu dathlu o flaen eu cyd-ddisgyblion, eu teuluoedd a’u hathrawon.

Yn ystod y diwrnod, bydd adloniant a gweithgareddau arbennig yn cael eu cynnal, a hefyd bydd nifer o gymeriadau ffuglennol enwog yn rhoi syrpréis i’r plant drwy gydol y digwyddiad.

Medd Nina Ruddle, Pennaeth Ymgysylltiad Polisi Cyhoeddus ym Mhrifysgol Wrecsam: “Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at seremonïau graddio Prifysgol y Plant Gogledd Cymru, a fydd yn cydnabod ac yn gwobrwyo’r bobl ifanc sydd wedi cymryd rhan yn y fenter ac sydd wedi cyflawni 30 awr neu fwy o weithgareddau dysgu ychwanegol. Gobeithio y bydd y digwyddiad yn rhoi ymdeimlad arbennig o gyflawni iddyn nhw, yn ogystal ag ymdeimlad o berthyn i leoliad addysg uwch.

“Mae’r gwaith hwn yn rhan o’n hymrwymiad i gynorthwyo’r cymunedau a wasanaethwn ledled y rhanbarth. Cafodd y cynllun ei greu trwy gydweithredu a gweithio mewn partneriaeth ag ystod eang o sefydliadau, gyda phob un ohonynt yn gweithio i esgor ar newid er mwyn cynorthwyo plant a phobl ifanc.

“Ein nod yn awr yw datblygu mwy ar y gwaith hwn trwy Ogledd Cymru i ategu arweinyddiaeth, llesiant meddwl a chariad at ddysgu ymhlith pobl ifanc – rhywbeth a fydd yn cysylltu ein holl gymunedau gyda’i gilydd. Dyma ffordd wirioneddol ysbrydoledig o alluogi pobl ifanc i feithrin sgiliau bywyd a chreu cyfleoedd ehangach i siapio’r dysgu y mae plant a phobl ifanc ei eisiau gyda’n gilydd.”

Ar ôl treialu’r fenter yn llwyddiannus y llynedd ar draws Wrecsam a Sir y Fflint, cafodd y cynllun ei ymestyn trwy Ogledd Cymru o fis Medi 2023 diolch i gyllid gan Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru.

Yn sgil yr arian hwn, bu modd i Brifysgol Wrecsam weithio gyda Phrifysgol Bangor fel partner cydweithio allweddol a nifer o bartneriaid rhanbarthol eraill i gyflwyno’r cynllun mewn mwy na 50 o ysgolion, fel rhan o weledigaeth ddinesig gyffredin i weithio mewn partneriaeth er mwyn rhoi diwedd ar anghydraddoldeb cymdeithasol yn y rhanbarth.

Llwyddwyd i recriwtio cyfanswm o 147 o gyrchfannau dysgu ledled Wrecsam, Sir y Fflint, Conwy, Sir Ddinbych, Gwynedd ac Ynys Môn i gymryd rhan ym menter ddiweddaraf Prifysgol y Plant.

Medd yr Athro Andrew Edwards, Dirprwy Is-Ganghellor Ymgysylltiad Dinesig ym Mhrifysgol Bangor: “Edrychwn ymlaen at groesawu pobl ifanc, eu teuluoedd a’u hathrawon i Pontio, Prifysgol Bangor i gymryd rhan yn seremoni raddio Prifysgol y Plant.

“Mae’r rhaglen yn gyfle gwych i ategu brwdfrydedd plant dros ddysgu. A thrwy gyfrwng ein gwaith ymchwil ar y rhaglen, edrychwn ymlaen at ddysgu rhagor am y modd y gallwn gynnig profiadau a gweithgareddau dysgu allgyrsiol o’r radd flaenaf i’r plant a’r bobl ifanc.”