Prifysgol Wrecsam wedi cyflawni dosbarth cyntaf o ran cynaliadwyedd a moeseg

Date: Dydd Gwener, Rhagfyr 22

Mae Prifysgol Wrecsam/Wrexham University wedi cael ei graddio fel sefydliad dosbarth cyntaf o ran ei chynaliadwyedd a’i moeseg yn nhabl Cynghrair People & Planet.

Mae’r Brifysgol, a gyflawnodd ddosbarthiad 2:1 y llynedd, wedi symud wyth lle i fyny i gyrraedd yr 28ain safle’n gyffredinol.

Ac, i ychwanegu at newyddion da’r sefydliad – cyrhaeddodd y 5ed safle yn y DU am yrfaoedd moesegol a chafodd ei roi ymhlith y 10 gorau am fuddsoddiad moesegol.

Gyda sgôr cyffredinol o 62.2%, sgoriodd Prifysgol Wrecsam:

  • 100% mewn tri chategori hefyd – ymgysylltiad staff a myfyrwyr, polisi a strategaeth, a staff ac Adnoddau Dynol.
  • Sgoriodd 95% am addysg ar gyfer datblygiad cynaliadwy.
  • Sgoriodd 92% yn gyffredinol am yrfaoedd a recriwtio moesegol.

Y llynedd, Prifysgol Wrecsam oedd y sefydliad cyntaf yng Nghymru i roi terfyn ar recriwtio tanwydd ffosil ar ei gampysau. Rhoddodd y Brifysgol Bolisi Gyrfaoedd Moesegol ar waith, gan ddatgan “na fydd yn cynnal perthynas o unrhyw fath â chwmnïau olew, nwy neu fwyngloddio fel rhan o’i hymrwymiad i gynyddu cynaliadwyedd a mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.”

People & Planet yw’r sefydliad ymgyrchu myfyrwyr mwyaf yn y DU. Mae ei Gynghrair Prifysgol People & Planet blynyddol yn lleoli 151 o brifysgolion y DU yn erbyn meini prawf cynaliadwyedd a moeseg.  

Dywedodd Jenny Thomas, Rheolwr Iechyd, Diogelwch a'r Amgylchedd Prifysgol Wrecsam: “Rydym yn hynod falch o’n perfformiad yn nhabl Cynghrair People & Planet. Mae cael ein graddio fel sefydliad dosbarth cyntaf am ein cynaliadwyedd a moeseg yn gwbl wych – ac yn dyst i waith caled ac ymrwymiad ein staff a’r corff myfyrwyr.

“Mae ein myfyrwyr yn dangos diddordeb brwd mewn materion yn ymwneud â chynaliadwyedd a’r amgylchedd. Eleni, cyflawnodd ein Hundeb Myfyrwyr sgôr ‘Rhagorol’ yn y fenter Effaith Werdd, a gaiff ei hasesu gan Students Organising for Sustainability UK.

“Mae Undeb y Myfyrwyr yn gweithio’n galed iawn i gadw materion amgylcheddol ar flaen meddwl pawb, yn benodol drwy ddigwyddiadau a phrosiectau amrywiol, y maent yn cydweithio arnynt â ni drwy gydol y flwyddyn. Ymhlith y rhain mae eu Ffair Werdd a’u Hwythnos Troi’n Wyrdd blynyddol, sy’n cynnwys ystod o weithgareddau lle gall pawb ddysgu sut allant fyw’n fwy cynaliadwy.

“Ar y cyd â staff, maent hefyd yn helpu i ofalu am ardd gymunedol y Brifysgol.”

Ychwanegodd Lynda Powell, Cyfarwyddwr Gweithredol Gweithrediadau’r Brifysgol: “Rydym yn hynod falch o’r gwaith rydym yn ei gyflawni o ran gwneud yr amgylchedd a chynaliadwyedd yn berthnasol ar draws y Brifysgol, gan weithio ar y cyd â’n cymuned myfyrwyr a staff.”

“Eleni, mae Cynghrair People & Planet yn dyst gwirioneddol i ymrwymiad diflino ein myfyrwyr a’n cydweithwyr i hyrwyddo cynaliadwyedd a gwelliannau.

“Serch hynny, er gwaethaf ein perfformiad cryf – mae’n bwysig nad ydym yn llaesu dwylo. Mae digonedd i’w wneud o hyd i leihau ein hôl troed carbon, i lywio arfer da a gweithio tuag at y datrysiadau sydd eu hangen arnom ar frys.”

Fel rhan o Gynghrair People & Planet,, caiff prifysgolion eu hasesu yn erbyn meini prawf cyhoeddedig, yn seiliedig ar y wybodaeth sydd ar gael ar eu gwefannau a’r data a gaiff ei adrodd i’r Awdurdod Ystadegau Addysg Uwch (HESA).

Mae’r meini prawf yn cwmpasu ystod o gategorïau, yn  cynnwys polisi a staffio, rheoli carbon, ymgysylltiad staff a myfyrwyr gyda chynaliadwyedd, ac addysg dros ddatblygu cynaliadwy.