Prosiect ffotograffiaeth yn dathlu pŵer straeon

Date: Dydd Iau Gorffennaf 13

Mae straeon ysbrydoledig unigolion a ddangosodd gryfder a gwydnwch aruthrol yn destun prosiect arbennig gan fyfyriwr Ffotograffiaeth a Ffilm ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam (PGW).

Mae Katie McCormick, sy’n fyfyriwr yn ei blwyddyn olaf yn y brifysgol, wedi cipio portreadau – a straeon llawn emosiwn – pobl sydd wedi dangos dewrder yn wyneb anawsterau, fel rhan o’i phrosiect mawr olaf ar gyfer ei gradd.

O glaf canser eilaidd y fron, Lisa Jones, a drodd yn ymgyrchydd; swyddog cymorth cyntaf yn y gymuned, Bethan Jones; i Lee Small – dyn sydd yn y gorffennol wedi ennill teitl Dyn Anabl Cryfaf y Byd, Dyn Anabl Cryfaf Prydain ddwywaith, Pencampwriaeth Ewrop a llu o gystadlaethau Prydeinig mewn codi pŵer - dyma ddim ond rhai o’r unigolion fu’n rhan o brosiect Katie.

Roedd Canghellor PGW, Colin Jackson CBE hefyd yn destun i brosiect Katy - ac fe enillodd ei phortread o Mr Jackson deitl Ffotograffydd Rhanbarthol y Flwyddyn Canolbarth Lloegr gyda Sefydliad Ffotograffiaeth Proffesiynol Prydain.  

Yn siarad wedi derbyn y newyddion am ei llwyddiant gyda’r wobr, dywed Katy: “Mae gallu eistedd i lawr a chyfweld y bobl anhygoel yma, a rannodd nid yn unig eu straeon personol gyda fi, ond a roddodd ganiatâd imi hefyd wneud portreadau ohonynt yn fwynhad llwyr ac yn anrhydedd. O’r dechrau i’r diwedd, mae wedi bod yn wych gweithio ar y rhain, ac yn ffordd hynod arbennig o orffen tair blynedd wych yn y brifysgol.

“I mi, roedd y prosiect yma am bŵer straeon. Mi wn i mai’r hen ddywediad yw bod ‘darlun werth mil o eiriau’ ond a dweud y gwir - ac efallai na ddylwn i ddweud hyn fel ffotograffydd - bod deall siwrnai person yn bendant yn gwneud ichi ystyried eu delwedd mewn ffordd wahanol. Rydych yn gallu eu gweld mewn goleuni sy’n fwy pwerus fyth, os yw hynny’n bosib.

“Ar gyfer pob unigolyn y tynnais eu llun, i fynd ochr yn ochr â’r portread, fe wnes i greu cylchgrawn bychan, gan fanylu ar eu stori a’r daith y buont arni. Dyma’r gwaith mwyaf hardd yr ydw i wedi ei greu erioed.

“Rydw i’n hynod ddiolchgar i’r holl ddynion a merched gwych a roddodd eu ffydd ynof i gyda’u straeon, drwy gytuno bod yn rhan o’r prosiect yma.  

“Mae hefyd yn deimlad anhygoel bod y gwaith yma wedi ei gydnabod gan Sefydliad Ffotograffiaeth Proffesiynol Prydain.”

Cafodd gwaith Katie fel rhan o’r prosiect yma ei arddangos yn arddangosfa ddiweddar ‘Overture’, ochr yn ochr â gwaith myfyrwyr Celf a Dylunio y brifysgol oedd ym mlwyddyn olaf eu cwrs.

Ychwanegodd Stephen King, Arweinydd Rhaglen Ffotograffiaeth a Ffilm yn PGW: “Rydw i’n hynod falch o Katie am y darn hynod ddiddorol a chymhellol yma. Mae hi wedi rhoi o’i holl i hwn, felly mae’n wych iddi gael ei chydnabod gan Sefydliad Ffotograffiaeth Proffesiynol Prydain - sefydliad ag iddo arwyddocâd diwydiant hanesyddol a rhyngwladol gwirioneddol, yn enwedig am brosiect sy’n canolbwyntio ar gymuned.

“Hoffwn hefyd gymryd y cyfle hwn i longyfarch pob un o’n myfyrwyr blwyddyn olaf gwych am eu hymroddiad a’u hymdrech wrth wneud i’r sioe yma ddigwydd. Roedd llwyddiant enfawr ‘Overture’ yn benllanw i bopeth yr ydym wedi ei ddysgu tros y tair blynedd diwethaf, gan oleuo a galluogi eu dyheadau unigol fel graddedigion. Rhoddodd pob un myfyriwr gymaint i’r arddangosfa, ac mae hynny yn sicr i’w weld.”

Llynedd enwyd Katie yn enillydd Gwobr Ffotograffydd Portread Stiwdio'r Flwyddyn gan Sefydliad Ffotograffiaeth Proffesiynol Prydain, yn ogystal ag ennill y wobr gyntaf ar ail wobr yng nghystadleuaeth Hydref 2022 ffotograffwyr babanod newydd-anedig, yr Accredited Professional Newborn Photographers International.

Isod mae cipolwg ar bob un o’r unigolion ddewisodd Katie i’w cynnwys yn y prosiect diweddaraf yma – mae’n eu disgrifio yn ei geiriau ei hun:

  • Colin Jackson CBE - Cyn athletwr sbrint a’r clwydi, a Changhellor PGW, saif yn ffigwr o optimistiaeth a dyhead, gan ddwyn gwybodaeth a sirioldeb i fyfyrwyr a chydweithwyr fel ei gilydd. Yn ystod ei yrfa fel athletwr, cynrychiolodd Brydain Fawr a Chymru, enillodd fedal arian yn y gemau Olympaidd, daeth yn Bencampwr y Byd ddwywaith, yn Bencampwr Dan Do y Byd unwaith, aeth heb ei guro ym Mhencampwriaethau Ewrop am 12 mlynedd a dwywaith bu’n bencampwr y Gymanwlad
  • Lisa Jones - ymgyrchydd dewr, a dderbyniodd ddiagnosis ei bod yn dioddef gan ganser eilaidd yn y fron. Er gwaethaf y diagnosis, nid yw wedi ei dal yn ôl, ac yn hytrach, mae hi wedi defnyddio ei phrofiad i ddod yn llais i gleifion eraill. Gan uno ag 20 o gleifion benywaidd eraill, ffurfiodd Lisa ymgyrch #fightingtobeheard
  • Lee Small - Yn 17 mlwydd oed, dioddefodd Lee ddamwain ddifrifol pan gollodd ei goes. I helpu gyda’i adferiad meddyliol, trodd at y gampfa a thrwy benderfyniad diflino llwyddodd i ennill teitl Dyn Anabl Cryfaf y Byd, Dyn Anabl Cryfaf Prydain ddwywaith, Pencampwr Ewrop a llu o gystadlaethau codi pŵer Prydeinig.
  • Bethan Jones - Mae Bethan yn gefnogwr brwd o’i chymuned. Yn swyddog cymorth cyntaf tra medrus, mae hi yn bachu ar bob cyfle i ddysgu a rhannu ei harbenigedd gyda’i ffrindiau ysgol. Yn ddiweddar fe’i dyrchafwyd i reng Gorporal yng Nghadéts Ambiwlans Sant Ioan Cymru, Glannau Dyfrdwy. Gwnaeth ymdrech ychwanegol yn ystod y cyfnod clo i ddangos tosturi tuag at eraill, a hyd yn oed cydlynu rafflau ar gyfer ei gwasanaeth ambiwlans lleol.
  • Macy Williams - Wedi ei hysgogi gan ei diagnosis o awtistiaeth a mudandod dethol, sefydlodd Macy dudalen gymdeithasol i rymuso’r bobl hynny nad yw eu lleisiau’n cael eu clywed. Er mwyn dod â hwyl i’r cyfryngau cymdeithasol a’i chymuned, dechreuodd adael rhoddion twymgalon i lonni dyddiau pobl. Yn ddiweddar, fel cydnabyddiaeth o’i hymdrechion hael, enillodd Macy yr ail wobr yng Ngwobrau F Jones Initiative, sydd yn anrhydeddu pobl fwyaf allgar Wrecsam.
  • Stephen O’Brien - Mae ei ymrwymiad ysbrydoledig tuag at helpu eraill i’w weld drwy ei gefnogaeth tuag at SSAFA (Soldiers’ Sailors’ & Airmen’s Families Association). Er iddo ddioddef anaf, mae’n parhau i godi arian ar gyfer yr elusen, sy’n darparu cymorth i bersonél cyfredol, cyn-filwyr, a’u teuluoedd mewn amser o galedi. Mae wedi dangos na all unrhyw beth ei ddal yn ôl, a’i fod yn benderfynol o wneud gwahaniaeth drwy ei ymdrechion codi arian.
  • Catherine Haf – Ar ôl i fethiant y galon olygu bod angen trawsblaniad arni, dechreuodd Catherine ar gyfnod anodd o adferiad. Ond ni phallodd ei gwytnwch o gwbl, ac mae hi bellach yn darparu cymorth a chyngor doeth i eraill, sydd wedi bod angen, neu sydd angen trawsblaniad.
  • Ruth Dive – Gan ymroi i arwain unigolion, y llynedd, roedd ei gwaith ar fenter “Look At Me Now” yn llwyddiant ysgubol. Fel rhan o’r prosiect, fe gefnogodd 10 o ferched yn eu harddegau drwy helpu i adeiladu eu hyder drwy eu haddysgu ar werth gwneud penderfyniadau cadarnhaol. O ganlyniad, mae’r merched wedi rhyddhau eu llyfr eu hunain mewn ymdrech i hyrwyddo’r gwersi y daethant ar eu traws yn ystod y rhaglen.
  • Sam Rowlands - Mae Sam yn Aelod Senedd dros Ogledd Cymru, a hefyd yn Weinidog yr Wrthblaid dros Lywodraeth Leol. Mae rôl Sam yn golygu ei fod yn esiampl i’r cymunedau mae’n eu gwasanaethu.
  • Melanie Gizzi - Trwy hyfforddiant bywyd, mae Melanie wedi ymroi o’i bywyd i ganolbwyntio ar lesiant a hunanofal. Gyda chyhoeddi ei llyfr, ‘A Guide to Being OMG Fabulous: How to get started when you realise you want more from life’, mae wedi gallu grymuso a dyrchafu merched di-ri, gan wneud iddyn nhw deimlo’n wych, yn gorff ac enaid.