Galwch nawr am leoedd Medi 2026! 01978 293439

Rachel Clacher CBE wedi'i phenodi yn ganghellor newydd Prifysgol Wrecsam

Wrexham University Chancellor Rachel Clacher

Dyddiad: Awst 27, 2026

Mae Rachel Clacher CBE wedi'i phenodi yn Ganghellor newydd Prifysgol Wrecsam, gan olynu Colin Jackson CBE.

Wrexham University Chancellor Rachel Clacher

Mae Rachel Clacher CBE yn un o entrepreneuriaid, dyngarwyr ac arweinwyr dinesig uchaf eu parch Cymru, ac mae hi'n fwyaf adnabyddus am fod yn gyd-sylfaenydd Moneypenny - y cwmni cyfathrebu allanol sydd wedi'i leoli yn Wrecsam, yn ogystal â sylfaenydd yr elusen symudedd cymdeithasol WeMindTheGap. Dyfarnwyd CBE iddi yn 2019 am wasanaethau i fusnes a phobl ifanc difreintiedig. Mae hi hefyd yn Gadeirydd Bwrdd Dinas Wrecsam ar hyn o bryd, gan helpu i lywio dyfodol a ffyniant tymor hir y ddinas.

Bydd Ms Clacher yn cael ei phenodi'n Ganghellor yn ffurfiol yn ddiweddarach eleni, lle bydd yn dechrau ei rôl fel pennaeth seremonïol a llysgennad y Brifysgol, gan gynrychioli Prifysgol Wrecsam ledled Cymru, y DU ac yn rhyngwladol.

Dywedodd Ms Clacher: "Cysylltwyd â mi i ddechrau ynghylch dod yn Ganghellor tua blwyddyn yn ôl. Cefais fy ngwneud yn Gymrawd Anrhydeddus Prifysgol Wrecsam yn 2024, a oedd yn golygu llawer i mi, ond roedd cael gwahoddiad i fod yn Ganghellor yn gwbl annisgwyl. Roeddwn wir wedi fy synnu ac yn teimlo'n hynod wylaidd!

"Nid oedd yn rôl yr oeddwn erioed wedi dychmygu fy hun ynddi, ond po fwyaf y gwnaethon ni drafod y peth, y mwyaf yr oedd yn teimlo fel cyfle hyfryd i gyfrannu at y brifysgol ac at y lle i hun, sydd ill dau wedi bod yn rhannau mor bwysig o fy mywyd.

"Rwy'n credu'n gryf yng ngwerthoedd Prifysgol Wrecsam. Mae symudedd cymdeithasol wedi bod wrth wraidd cymaint o fy mywyd a'm gwaith. Trwy WeMindTheGap, rwyf wedi gweld faint o dalent a photensial sydd gan bobl nad ydynt bob amser wedi cael y cyfleoedd a'r hyder i gydnabod hynny ynddyn nhw eu hunain.

"Rwyf hefyd yn hoff iawn o'r ffordd mae'r Brifysgol wedi'i gwreiddio yn ei lle. Mae Wrecsam wedi rhoi cymaint i mi dros y blynyddoedd, ac roedd hyn yn teimlo fel cyfle arall i roi rhywbeth yn ôl. Rwyf wastad wedi ymddiddori yn yr hyn sy'n digwydd pan rydych yn cysylltu meysydd nad ydynt bob amser yn gwneud hynny'n naturiol - addysg, busnes, elusennau, cymunedau, llywodraeth a phobl ifanc eu hunain. Y cwestiwn rwy'n ei ofyn i mi fy hun dro ar ôl tro yw: beth allem ni ei wneud gyda'n gilydd na fydden yn medru'i wneud ar ein pen ein hunain? Rwyf yn edrych ymlaen at gael mynd ar drywydd hynny gyda'r Brifysgol.

"Gall addysg newydd cyfeiriad bywyd. Ond gall cael rhywun yn credu ynddoch chi wneud hynny hefyd, rhywun yn agor drws neu eich helpu i weld posibilrwydd newydd. Rwyf yn teimlo'n hynod gyffrous am yr hyn y gall prifysgol sydd wedi ymrwymo o ddifrif i symudedd cymdeithasol ei gyflawni: helpu pobl, nid yn unig i fynd drwy’r drws, ond i gredu eu bod yn perthyn yno, ffynnu tra byddant yno a gadael gan gredu yn yr hyn sy’n bosibl iddynt.”

Rachel Clacher CBE and Prof Joe Yates

Rachel Clacher CBE ac Is-ganghellor Prifysgol Wrecsam, yr Athro Joe Yates

Ychwanegodd yr Athro Joe Yates, Is-ganghellor Prifysgol Wrecsam: "Rydym wrth ein bodd fod Rachel wedi cytuno i ddod yn Ganghellor newydd i ni, ac rydym yn ddiolchgar i'n Canghellor sy'n ymadael, Colin Jackson CBE, am ei waith caled yn gwasanaethu’r Brifysgol gydag ymroddiad a hynodrwydd. Trwy gydol ei gyfnod fel Canghellor, mae Colin wedi bod yn llysgennad sy'n ysbrydoli; gan hyrwyddo ein myfyrwyr, dathlu ein cyflawniadau a helpu i godi ein proffil yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.

"Mae penodiad Rachel yn adlewyrchu ymrwymiad Prifysgol Wrecsam i feithrin cysylltiadau cryf rhwng addysg, menter, arloesedd ac effaith cymunedol, sydd i gyd yn gonglfeini gweledigaeth a strategaeth y Brifysgol.

"Mae Rachel yn dod â'i llwyddiant eithriadol ym myd busnes, effaith cymdeithasol ac arweinyddiaeth sy'n seiliedig ar le i'w rôl fel Canghellor wrth i'r Brifysgol barhau i gyflawni ei strategaeth Wrecsam2030 uchelgeisiol a chryfhau ei safle fel prifysgol ddinesig fodern sy'n flaenllaw'n fyd-eang. Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu at ein tîm."

Dywedodd Leigh Griffin, Cadeirydd Bwrdd y Llywodraethwyr: "Mae penodiad Rachel yn gyfnod arwyddocaol ar gyfer Prifysgol Wrecsam. Mae hi'n cyfuno arweinyddiaeth fusnes o'r radd flaenaf gydag ymrwymiad diwyro i greu cyfleodd ar gyfer eraill a gwella cymunedau.

"Mae'r Bwrdd yn hyderus y bydd Rachel yn llysgennad arbennig ar gyfer ein Prifysgol, a fydd yn cefnogi ein cenhadaeth ac yn ein helpu i gryfhau ein heffaith ddinesig a'n partneriaethau rhanbarthol. Rydym yr un mor ddiolchgar i Colin Jackson am ei wasanaeth rhagorol a'i gyfraniad parhaus fel Canghellor."