Saith deg pump y cant o raddedigion Prifysgol Wrecsam mewn cyflogaeth fedrus yn dilyn eu gradd

Dyddiad: Mehefin 18 2026
Datgelodd data diweddar o Arolwg Canlyniadau Graddedigion y DU, a arolygodd garfan 23/24 o raddedigion y DU, fod 75% o raddedigion Prifysgol Wrecsam bellach mewn cyflogaeth sgiliau uchel, gan godi i 80% ar gyfer ôl-raddedigion.
Casglodd yr arolwg, a gynhaliwyd gan HESA (Asiant Ystadegau Addysg Uwch), ganlyniadau gan 353,755 o bobl ledled y DU 15 mis ar ôl iddynt raddio.
Mae canlyniadau graddedigion Prifysgol Wrecsam yn datgelu bod y mwyafrif bellach mewn ‘o rolau sgiliau uchel mewn meysydd gan gynnwys gofal iechyd, peirianneg, plismona, y sector cyfreithiol, addysg, a gwasanaeth sifil.
Meddai Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Wrecsam, Paul Davies: "Rydym yn gwybod y gall dod o hyd i waith o ansawdd da yn eich maes dewisol fod yn heriol, a dyna pam mae cyflogadwyedd wedi'i wreiddio'n gadarn ar draws profiad y myfyriwr ym Mhrifysgol Wrecsam. Mae ein cyrsiau wedi'u dylunio mewn partneriaeth â diwydiant ac yn canolbwyntio ar ddatblygu'r sgiliau, y wybodaeth a'r profiad ymarferol y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt i roi'r cyfle gorau posibl i fyfyrwyr symud yn syth i mewn i gyflogaeth pan fyddant yn graddio.”