Prifysgol Wrecsam yn croesawu cannoedd o ddisgyblion ysgol gynradd leol ar gyfer ymweliad campws

Croesawodd Prifysgol Wrecsam bron i 400 o ddisgyblion ysgol gynradd yn gynharach y mis hwn fel rhan o ymgyrch i annog mwy o bobl ifanc i addysg uwch.
Mae’r digwyddiad blynyddol, a gefnogir gan Ymestyn yn Ehangach (partneriaeth o brifysgolion, ysgolion a cholegau Cymru sy’n cydweithio i ehangu mynediad i addysg uwch), yn gwahodd ysgolion cynradd o bob rhan o ogledd a chanol Cymru i gymryd rhan mewn dosbarthiadau STEM rhyngweithiol, mynd ar daith o amgylch y brifysgol, cwrdd â staff a myfyrwyr, a dysgu mwy am fywyd prifysgol.
Dysgodd y 380 o ddisgyblion o 11 ysgol, ymhlith pethau eraill, am DNA a datblygiad cynaliadwy ac ecogyfeillgar, gwylio arddangosiadau byw o ffiseg a chemeg ar waith o Ganolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore, a chymryd rhan mewn cwisiau a helfeydd trysor. Roedd staff o WoW (World of Work) hefyd wrth law i drafod gyrfaoedd a chodi ymwybyddiaeth o wahanol gyfleoedd sydd ar gael i'r disgyblion.
Meddai Andy Griffiths, athro o Ysgol Gynradd St Ethelwold’s yn Shotton: “Mae hwn yn gyfle prin i’n myfyrwyr. Mae adnoddau gwych yn y Brifysgol, ac mae'r gwersi rhyngweithiol hyn yn dod â llawer o werth i'n myfyrwyr.”
Ychwanegodd Richard Thornhill, athro o Ysgol Gynradd Queensferry: “Mae’r diwrnod hwn yn gyfle gwych i’n disgyblion ymweld â phrifysgol, a gwybod y gallai hyn fod yn opsiwn iddyn nhw un diwrnod. Mae'r sesiynau rhyngweithiol yn boblogaidd gyda'r myfyrwyr, ac yn seibiant gwych i ffwrdd o'r ysgol!”

Mae’r digwyddiad yn rhan o ymdrech ledled y wlad i annog symudedd cymdeithasol drwy gynnig cyfleoedd i ddisgyblion o ardaloedd difreintiedig ymweld â mannau addysg uwch a chwalu rhwystrau i gael mynediad at ddysgu.
Meddai Paula Griffiths, Rheolwr Partneriaethau yn Reaching Wider: “Bob blwyddyn rydym yn gweithio gyda miloedd o bobl ifanc ac oedolion i ehangu eu dyheadau a’u sgiliau, ac amlygu’r holl lwybrau dysgu i addysg uwch. Rydym yn cefnogi ymweliadau â phrifysgolion a cholegau, yn cyflwyno digwyddiadau ysbrydoledig mewn ysgolion, ac yn cynnig cyfleoedd mentora i fyfyrwyr hŷn.
“Trwy ddod â disgyblion iau i mewn i leoedd fel Prifysgol Wrecsam, lle mae pawb mor gyfeillgar, gallwn ddadrithio profiad y brifysgol, caniatáu iddynt deimlo'n gyfforddus yn yr amgylchedd hwn, a gadael iddynt archwilio'r cyfleoedd astudio arloesol a'r llwybrau dysgu sydd ar gael iddynt yn y dyfodol.”
Meddai Cydlynydd Mynediad Allgymorth ac Ehangu Prifysgol Wrecsam, Amber Percy: “Roedd yn wirioneddol ysbrydoledig cynnal digwyddiad cynradd ar raddfa mor fawr, gan ddod â’n cymunedau lleol ynghyd i ddarganfod cyfleoedd ar gyfer y dydodol. Roedd gweld cymaint o ddisgyblion yn ymgysylltu â phrofiad y brifysgol yn atgyfnerthu ein hymrwymiad i ehangu mynediad, oherwydd dylai addysg fod i bawb, waeth beth fo'u cefndir.”