Yr Athro Claire Taylor i ddod yn Is-Ganghellor Prifysgol Marjon Plymouth

Picture of Deputy Vice-Chancellor Professor Claire Taylor

Date: Dydd Mercher Ionawr 11

Bydd y Dirprwy Is-Ganghellor Yr Athro Claire Taylor yn gadael Prifysgol Glyndŵr Wrecsam i ddod yn Is-Ganghellor a Phrif Weithredwr newydd Prifysgol Marjon Plymouth o fis Mai 2023.

Ymunodd yr Athro Taylor â’r brifysgol yn Ddirprwy Is-Ganghellor ac Athro Addysg ym mis Awst 2016. Yn ei rôl gyfredol, mae wedi arwain ar ddarpariaeth academaidd ac ansawdd y cyfleoedd dysgu i fyfyrwyr ar draws y brifysgol.

Wrth gyhoeddi newyddion yr Athro Taylor, dywed yr Athro Maria Hinfelaar, Is-Ganghellor Prifysgol Glyndŵr Wrecsam: “Rwyf wrth fy modd bod Claire wedi sicrhau rôl Is-Ganghellor a Phrif Weithredwr Prifysgol Marjon Plymouth.

“Mae hon yn foment falch i Brifysgol Glyndŵr Wrecsam, ac rwy’n estyn fy llongyfarchiadau cynhesaf i Claire, a fu’n hollbwysig yn y newid gweddnewidiol yr ydym wedi ei gyflawni ar draws y sefydliad gydag effaith hynod gadarnhaol ar gyfer myfyrwyr, staff, ein cymunedau a’r rhanbarth.  

“Gwych yw gweld llwyddiant Dirprwy Is-ganghellor wrth gymryd y cam nesaf i fod yn Is-Ganghellor mewn man arall yn sector Addysg Uwch y DU.

“Rwyf wrth fy modd dros Claire ac yn dymuno pob llwyddiant iddi yn ei rôl newydd. Rwyf wedi mwynhau gweithio gyda hi dros gymaint o flynyddoedd yn y brifysgol ac yn edrych ymlaen at ei chroesawu’n fuan yn gyd Is-ganghellor yn y sector."

Wrth edrych ymlaen at gamu i’w rôl newydd, dywed yr Athro Taylor: “Rwy’n hynod falch o ymuno â Phrifysgol Marjon Plymouth fel yr Is-ganghellor nesaf, ac yn edrych ymlaen at y cyfleoedd a’r heriau i ddod.

“Fel Prifysgol Glyndŵr Wrecsam, mae Marjon yn brifysgol seiliedig ar werthoedd, wedi ei gwreiddio mewn cefndir o gynhwysiant cymdeithasol ag iddi sgôr rhagorol tebyg o ran boddhad myfyrwyr. 

“Wedi gweithio yn y brifysgol am yn agos i saith mlynedd, byddaf yn gweld eisiau cymaint o ffrindiau a chydweithwyr da, a hoffwn ddiolch iddynt am fy nghefnogi ar bob cam o fy amser yma. Mae wedi bod yn wirioneddol fendigedig.”