decorative

Cwestiynau Cyffredinol am Gofrestru

Gallwch gofrestru/ailgofrestru dim ond os byddwch yn derbyn e-bost yn eich gwahodd i wneud hynny. Ar ôl i chi gwblhau'r broses gofrestru ar-lein, byddwch yn derbyn e-bost yn cadarnhau hyn.  

Cwestiynau am gofrestru ar-lein

1. Oes raid i mi gofrestru a beth fydd yn digwydd os na fyddaf yn gwneud hynny?
Mae'n rhaid i chi gofrestru. Mae cofrestru yn cofnodi'n ffurfiol eich bod wedi dechrau ar eich cwrs ac yn eich cofrestru ar gyfer ystod o wasanaethau, gan gynnwys galluogi mynediad i'ch benthyciad / grantiau i fyfyrwyr. Os na fyddwch yn cofrestru, yna ni allwch ymgymryd â'ch cwrs ac ni fydd gennych fynediad at wasanaethau'r Brifysgol. Fe'ch gwahoddir i gofrestru ar-lein. Unwaith y byddwch wedi cael eich gwahoddiad byddwch yn gallu mewngofnodi a chwblhau cofrestru ar-lein. Gweler: https://wrexham.ac.uk/welcome-week/enrolment/ am fwy o wybodaeth

2. Rwyf wedi rhag-gofrestru ar-lein mae’n rhaid i mi fynd i’r diwrnod cofrestru hefyd?
Mae cofrestru ar-lein yn darparu llawer o'r wybodaeth y mae angen i'r Brifysgol ei chofnodi am ein myfyrwyr. Er mwyn casglu eich cerdyn myfyriwr bydd angen i chi ddarparu ID Ffotograffig i sicrhau bod y Brifysgol yn bodloni ei gofynion adnabod.

3. Rwyf wedi anghofio fy nghyfrinair, beth ddylwn i ei wneud?
Os ydych wedi anghofio eich cyfrinair, dilynwch y cyfarwyddiadau ar http://wxm.ac.uk/enrol.

4. Rwyf wedi cael fy nghloi allan o’r system gofrestru. Pwy ddylwn i gysylltu?

Sicrhewch fod gennych gyfrinair dilys ar gyfer logio i mewn. Ceisiwch ailosod eich cyfrinair gan ddefnyddio http://wxm.ac.uk/enrol.   

Ar gyfer unrhyw faterion cyfrif TG a mewngofnodi, ewch i'r Porth Myfyrwyr, https://myuni.glyndwr.ac.uk, a dewiswch Login Support.  Gallwch gysylltu â desg wasanaeth INFORM ar 01978 293 241, nodwch fod y llinell ffôn yn cael ei monitro yn ystod oriau swyddfa'r DU.   

5. Sut ydw i'n dod o hyd i dudalen fy nghofnod myfyriwr?
I fewngofnodi a chwblhau eich cofrestriad, defnyddiwch y ddolen hon evision.glyndwr.ac.uk. Gofynnir i chi fewngofnodi gyda'ch enw defnyddiwr a'ch cyfrinair. Os ydych yn fyfyriwr newydd, byddwch yn derbyn enw defnyddiwr a dolen i greu cyfrinair mewn e-bost a anfonir atoch pan gewch wahoddiad i gofrestru.

6. Beth os nad yw’r modiwlau’n gywir ar y system?
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cwblhau cofrestru ar-lein hyd yn oed os na allwch ddewis yr holl fodiwlau ar gyfer eich cwrs astudio. Mae'n well cwblhau cofrestru a chodi unrhyw broblemau gyda dewisiadau modiwlau wedyn na pheidio â chofrestru o gwbl. Gallwch gysylltu â studentadministration@wrexham.ac.uk os nad ydych yn siŵr o'ch dewisiadau dewis modiwl.

7. Beth os byddaf yn allgofnodi o’r broses ailgofrestru cyn gorffen neu’n colli cysylltiad?
Dylch fedru mewngofnodi eto. Bydd y system yn ceisio ailddechrau o lle bynnag roeddech wedi cyrraedd.

8. Pam nad yw rhai newidiadau i’m cofnod i’w gweld ar unwaith?
Mae rhai newidiadau yr hoffem eu gwirio gyda chi cyn eu cynnwys yn eich cofnod, megis e.e. newid enw. Bydd rhai newidiadau yn cael eu gwneud ar unwaith.

9. Pam ydw i’n caniatáu i chi roi fy nata personol i drydydd partïon?
Er mwyn i'r Brifysgol ddarparu gwasanaeth addysgol i chi, bydd angen i ni rannu eich gwybodaeth â phobl eraill. Mae pwy rydym yn ei rannu wedi'i amlinellu'n llawn yn yr Hysbysiad Preifatrwydd Myfyrwyr (tablau https://wrexham.ac.uk/information-governance/policies-and-statements/and; 3ydd partïon fel Undeb y Myfyrwyr, cyrff statudol, MEDR, yr awdurdod lleol ar gyfer eithrio treth gyngor a'r gofrestr etholiadol. Nid ydym yn rhannu unrhyw wybodaeth sensitif categori arbennig heb eich caniatâd penodol.

11. Nid wyf wedi derbyn gwahoddiad e-bost cofrestru eto.  

Anfonir e-byst gwahoddiad cofrestru mewn sypiau a byddant yn cael eu hanfon cyn y flwyddyn academaidd. 

12. Beth yw'r pwyntiau atebolrwydd ffioedd dysgu?  

Gallwch ddod o hyd i'r pwyntiau atebolrwydd yn y Rheoliadau Ffioedd Dysgu Myfyrwyr ar y dudalen Ffioedd a Chyllid ar wefan y Brifysgol: https://wrexham.ac.uk/cy/ffioedd-a-chyllido/ 

Cwestiynau am fenthyciadau myfyrwyr

Talu Benthyciadau Myfyrwyr – gwybodaeth bwysig. Gall gymryd hyd at 5 diwrnod (myfyrwyr llawn amser), a 14 diwrnod (myfyrwyr rhan amser) i’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr dalu’r benthyciad ar ôl i’r Brifysgol gadarnhau’ch bod wedi cofrestru, waeth beth yw’r dyddiad sydd wedi’i nodi ar eich llythyr asesu. Y rheswm mwyaf cyffredin dros unrhyw oedi yw’r ffaith nad yw myfyrwyr yn anfon eu Datganiad yn ôl at y Cwmni. Gofalwch fod gan y Cwmni eich manylion banc cywir. Os ydych yn fyfyriwr rhan amser, gofalwch fod eich credydau academaidd yn gywir. Fel arall, mae’n bosibl y bydd oedi cyn y cewch eich taliad.

13. Myfyrwyr newydd
Caiff eich benthyciad myfyrwyr ei dalu pan fyddwch wedi cwblhau’ch cais am gyllid myfyrwyr, wedi anfon eich Datganiad yn ôl i’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr ac wedi cwblhau’r broses gofrestru yn y Brifysgol. Ni all y Brifysgol gadarnhau’ch presenoldeb cyn i chi gwblhau’r broses gofrestru. Bydd y Brifysgol yn rhoi gwybod i’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr yn awtomatig pan fyddwch wedi ailgofrestru, a hynny’r un diwrnod fel arfer. Os ydych yn fyfyriwr rhan amser, gofalwch fod eich credydau academaidd yn gywir. Fel arall, mae’n bosibl y bydd oedi cyn y cewch eich taliad.

14. Myfyrwyr sy’n dychwelyd
Bydd eich Benthyciad Myfyrwyr yn cael ei dalu pan fydd eich cais am fenthyciad ar gyfer y flwyddyn wedi cwblhau a’r Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr wedi’i brosesu, pan fyddwch wedi anfon eich datganiad yn ôl i’r Cwmni a phan fyddwch wedi cwblhau’r broses ail-gofrestru ar-lein neu yn y Brifysgol. Ni chaiff benthyciadau eu talu ar ddiwrnod cyntaf y tymor. Bydd y rhan fwyaf o fyfyrwyr sy’n dychwelyd yn ailgofrestru ar-lein: bydd y Brifysgol yn rhoi gwybod i’w Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr yn awtomatig pan fyddwch wedi ailgofrestru.

15. Pryd geith fy Menthyciad ei dalu?
Bydd eich benthyciad myfyriwr yn cael ei dalu hyd at 5 diwrnod gwaith (ar gyfer myfyrwyr amser llawn) a 14 diwrnod (ar gyfer myfyrwyr rhan-amser) ar ôl i chi gofrestru'n ffurfiol, ac ar ôl dyddiad cyntaf y tymorBydd taliad ond yn cael ei wneud os ydych wedi cwblhau eich cais Cyllid Myfyrwyr yn llawn ac wedi llofnodi/dychwelyd eich datganiad i Cyllid Myfyrwyr. Caniatewch amser i'r dogfennau hyn gael eu prosesu gan Cyllid Myfyrwyr. Sylwch, efallai y byddwch yn profi oedi os nad yw eich cais yn gywir - h.y. cwrs, ffi a blwyddyn astudio. Mae angen i fyfyrwyr rhan-amser sicrhau bod y swm cywir o gredydau y maent yn eu hastudio wedi'u cofnodi, fel arall efallai y bydd taliad Cyllid Myfyrwyr yn cael ei oedi.   

16. Mae’r manylion yn fy llythyr gan Gyllid Myfyrwyr yn anghywir. Beth ddylwn i ei wneud?
Cysylltwch â Chyllid Myfyrwyr Cymru/Lloegr ar unwaith i wneud yn siŵr bod eich cais wedi’i gwblhau a’i fod yn gywir erbyn dechrau’r tymor.

17. Mae'r dyddiad ar fy llythyr Cyllid Myfyrwyr yn nodi dyddiad talu, a fyddaf yn cael fy arian ar y dyddiad hwn? 
Hwn yw’r dyddiad safonol y bydd Cyllid Myfyrwyr Cymru/Lloegr yn ei ddefnyddio ar gyfer dyddiad dechrau’r tymor – nid oes unrhyw sicrwydd y cewch yr arian ar y dyddiad hwn.

18. Oes angen i’r Brifysgol sganio’r llythyr a gefais gan Gyllid Myfyrwyr?
Nac oes. Er bod eich llythyr yn dweud y bydd angen i’r Brifysgol weld neu sganio’ch rhestr taliadau, dim ond os byddwn yn gofyn yn benodol i weld y llythyr y bydd angen i chi ei ddangos. Mae Prifysgol Wrecsam yn cael gwybodaeth am eich cyllid gan y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr yn uniongyrchol felly, fel arfer, does dim angen i ni weld eich llythyr.

19. Rwyf wedi siarad â Chyllid Myfyrwyr ac maent yn dweud nad yw’r Brifysgol wedi cadarnhau fy mod wedi cofrestru. Beth ddylwn i ei wneud?
Yn gyntaf, gwnewch yn siŵr eich bod wedi ymrestru'n llawn a chwblhau a dychwelyd eich datganiad wedi'i lofnodi. Os ydych chi wedi gwneud hyn, anfonwch e-bost at y cyfeiriad canlynol srs_slc_queries@wrexham.ac.uk. Dylech gynnwys eich Rhif Cymorth i Fyfyrwyr gan Gyllid Myfyrwyr (mae'r rhif hwn yn dechrau gyda SFWU neu SFDU) a'ch rhif myfyriwr Prifysgol Wrecsam.

20. Rwy’n llenwi ffurflen gais bapur gyda Chyllid Myfyrwyr, oes angen i mi lenwi’r ffurflen llofnod myfyriwr?

Os ydych wedi cwblhau cais papur ar gyfer eich Cyllid Myfyriwr, sicrhewch fod y rhan datganiad myfyriwr o’r ffurflen llofnod myfyriwr wedi’i llofnodi a’i dyddio. Nid yw eich cais gael ei brosesu gan Cyllid Myfyrwyr nes eu bod wedi derbyn hwn.

Am ragor o wybodaeth, cyfeiriwch at wefan Cyllid Myfyrwyr.   

Os oes gennych gwestiwn am gofrestru nad yw'n cael ei ateb yn yr adran hon, cysylltwch â studentadministration@wrexham.ac.uk. I gael cwestiynau am dalu benthyciadau myfyrwyr, cysylltwch â srs_slc_queries@wrexham.ac.uk 

Cwestiynau am Moodle ac ADR

21. Beth ydi ADR?
Mae ADR yn golygu Amgylchedd Dysgu Rhithwir ac mae'n blatfform mae'r Brifysgol yn defnyddio i wneud adnoddau a chynnwys dysgu ar gael i chi. Platfform y Brifysgol ydi Moodle a bydd angen i chi fewngofnodi ar Moodle i weld adnoddau eich cwrs ac i gyflwyno aseiniadau.

22. Beth ydi Moodle?
Mae Moodle yn Amgylchedd Dysgu Rhithwir (ADR) mae'r Brifysgol yn ei ddefnyddio i roi mynediad i adnoddau dysgu a chynnwys eich cwrs i chi. Bydd angen i chi fewngofnodi ar Moodle i weld adnoddau eich cwrs ac i gyflwyno aseiniadau. Pan rydych yn mewngofnodi ar Moodle am y tro cyntaf bydd yn cymryd 24 awr i'ch cwrs arddangos gan fod y gweinydd yn diweddaru dros nos.

23. Sut gai fynediad i Moodle?
Rydych yn mewngofnodi ar Moodle drwy fynd i wefan y Brifysgol a chlicio ar y Porth MyUni ar ben y sgrin i'r dde. Cliciwch ar y bocs glas mawr i fewngofnodi a byddwch yn derbyn anogwr i fewnbynnu eich enw defnyddiwr a chyfrinair. Pan rydych wedi gwneud hyn byddwch yn gweld bocs yn dweud "VLE (Moodle)", cliciwch hwn i fynd i Moodle. Pan rydych yn mewngofnodi ar Moodle am y tro cyntaf bydd yn cymryd 24 awr i'ch cwrs arddangos gan fod y gweinydd yn diweddaru dros nos.

24. Pa mor fuan cyn i'r cwrs ddechrau bydd gennyf i fynediad i Moodle?
Cyn gynted rydych wedi cwblhau'ch proffil myfyriwr ac wedi creu cyfrinair gallwch fewngofnodi ar Moodle. Pan rydych yn mewngofnodi ar Moodle am y tro cyntaf bydd yn cymryd 24 awr i'ch cwrs arddangos gan fod y gweinydd yn diweddaru dros nos. Mewngofnodwch cyn gynted a fedrwch chi os gwelwch yn dda ar ôl cwblhau'ch proffil myfyriwr er mwyn sicrhau bod eich mynediad i Moodle yn barod ac yn gywir cyn i chi ddechrau'ch cwrs.

25. Rwyf wedi mewngofnodi ar Moodle ond pam na fedrai weld fy nghwrs wedi'i restru?

Pan rydych yn mewngofnodi ar Moodle am y tro cyntaf bydd yn cymryd 24 awr i'ch cwrs arddangos gan fod y gweinydd yn diweddaru dros nos. Mewngofnodwch cyn gynted a fedrwch chi os gwelwch yn dda ar ôl cwblhau'ch proffil myfyriwr er mwyn sicrhau bod eich mynediad i Moodle yn barod ac yn gywir cyn i chi ddechrau'ch cwrs.

26. Rwyf wedi mewngofnodi ar Moodle ac mae'r modiwl anghywir wedi'i restru, beth ydw i angen gwneud?

Bydd angen i chi gysylltu â studentadministration@wrexham.ac.uk pwy all eich helpu i ddiweddaru'ch cofnod gyda'r modiwlau cywir.

27. Pwy ydw i angen cysylltu ag os oes gen i drafferth mewngofnodi ar Moodle?

Ar gyfer unrhyw faterion cyfrif TG a mewngofnodi, ewch i'r Porth Myfyrwyr, https://myuni.glyndwr.ac.uk, a dewiswch Login SupportGallwch gysylltu â desg wasanaeth INFORM ar 01978 293 241, nodwch fod y llinell ffôn yn cael ei monitro yn ystod oriau swyddfa'r DU.  

 

Cwestiynau am lythyrau a chymorth arall

28. A ofynnwyd i chi ddarparu gwiriad DBS a/neu Iechyd Galwedigaethol?   

Byddwch wedi cael gwybod yn eich llythyr cynnig os yw eich rhaglen yn gofyn i chi ddarparu cliriad DBS (Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd) boddhaol a/neu gliriad Iechyd Galwedigaethol. Os yw hyn yn berthnasol i chi, unwaith y byddwch wedi derbyn eich cynnig yn gadarn, byddwch yn derbyn e-byst i gychwyn y gwiriadau clirio oddi wrth dbs@wrexham.ac.uk a gan Heales Medical. Sicrhewch eich bod wedi cyrchu'r dolenni a ddarperir yn yr e-byst hyn a chwblhewch y prosesau er mwyn i'r wybodaeth glirio berthnasol gael ei chofnodi yn erbyn eich cofnod myfyriwr. Os nad ydych wedi derbyn yr e-byst hyn (gwiriwch eich ffolder sothach/spam yn gyntaf), e-bostiwch admissions@wrexham.ac.uk. 

29. Sut ydw i'n derbyn llythyr i agor cyfrif banc neu i dderbyn aelodaeth campfa Myfyriwr?
Gallwch argraffu llythyr cadarnhad astudiaethau eich hunain drwy fewngofnodi ar eich cofnod myfyriwr. Mae canllaw syml ar argraffu'r rhain hefyd ar gael drwy fynd i students.glyndwr.ac.uk/home-2/student-administration/forms.

30. Sut ydw i'n derbyn Llythyr Eithriad o Dreth Cyngor?
Os ydych yn byw yn ardal Bwrdeistref Sir Wrecsam yna ni fydd angen i chi dderbyn llythyr gan fyddem yn cadarnhau eich presenoldeb myfyriwr os ydych yn caniatáu i ni rannu'r wybodaeth yma - gallwch wneud hyn pan rydych yn cofrestru/ail-gofrestru neu ar unrhyw adeg drwy fewngofnodi ar eich cofnod myfyriwr ar-lein ac yn diweddaru eich dewisiadau caniatâd. Os ydych yn byw tu allan i Fwrdeistref Sir Wrecsam yna gallwch argraffu llythyr Treth Cyngor eich hunain drwy fewngofnodi ar eich cofnod myfyriwr. Mae canllaw syml ar argraffu'r rhain hefyd ar gael drwy fynd i students.glyndwr.ac.uk/home-2/student-administration/forms.

 

Os ydych yn dal i fod yn ansicr ynglŷn ag unrhyw beth yn ymwneud â benthyciadau myfyrwyr, gallwch anfon e-bost i slc_queries@wrexham.ac.uk.