Canlyniad partneriaeth arloesol rhwng Prifysgol Glyndŵr, Airbus, Coleg Cambria a Llywodraeth Cymru, bydd y ganolfan, sydd wedi'i lleoli ym Mharc Diwydiannol Penarlâg ym Mrychdyn, yn helpu miloedd o weithwyr Airbus a phrentisiaid i ddatblygu eu sgiliau gweithgynhyrchu cyfansawdd.

Roedd ei lansio ym mis Hydref 2010 yn gam pellach ymlaen i Brifysgol Glyndŵr fel partner arbenigol anhepgor ar gyfer diwydiant yng ngogledd Cymru.

Mae’r gallu i gynllunio, gweithgynhyrchu a rhoi deunyddiau cyfansawdd at ei gilydd yn hanfodol yn y diwydiant awyrennol. Mae’r defnydd o gyfansoddau mewn awyrennau yn helpu i fwyhau pwysau a chynllun awyren, a chan hynny yn gwella effeithlonrwydd a pherfformiad.

Trawsgrifiad - Composites Centre Transcript

Hyfforddiant

Mae’r sgiliau a’r prosesau gweithgynhyrchu sydd eu hangen i gynhyrchu rhannau a chydrannau cyfansawdd yn wahanol i waith metalig cyfredol, felly mae hyfforddiant yn y sector tra medrus yma yn bwysig i weithwyr a phrentisiaid yn y diwydiant.

Bydd y ganolfan yn galluogi myfyrwyr i symud ymlaen o lefel prentis crefft yn Airbus i fod yn Beiriannydd Siartredig yn sgîl cymwysterau a gyflenwir gan Brifysgol Glyndŵr ar bob lefel, gan gynnwys HNC/HND, gradd sylfaen, BSc, MSc a PhD. Datblygwyd MSc ac MRes mewn Cyfansoddau newydd y Brifysgol mewn cydweithrediad ag Airbus.

Ymchwil

Targedir ymchwil dan arweiniad Prifysgol Glyndŵr at ddatblygu dulliau gweithgynhyrchu a phrosesu cyflymach ar gyfer defnyddiau cyfansawdd a fydd yn helpu i gwrdd â galw am awyrennau a chyfansoddau yn gyffredinol yn y dyfodol.

Mae’r Ganolfan yn croesawu ymholiadau gan ddiwydiant a’r byd academaidd i sefydlu cysylltiadau ymchwil gweithredol cydweithrediadol newydd. Gall prosiectau amrywio o ymgynghoriaeth byrdymor i gydweithrediadau mwy hirdymor yn sgîl cynlluniau megis YaD Cydweithrediadol Bwrdd Strategaeth Technoleg, Partneriaethau Trosglwyddo Gwybodaeth (PTG), cydweithrediadau wedi’u hariannu gan y Cyngor Ymchwil, Nawdd Ariannol Undeb Ewropeaidd ac ymchwil gytundebol.

Cysylltu

Yr Athro Richard Day

Athro mewn Peirianneg Cyfansoddion Prifysgol Cymru
Arweinydd Academaidd, Peirianneg Fecanyddol, Awyrennol a Thrydanol
Cyfarwyddwr Cyswllt yr Ysgol i Raddedigion sy’n gyfrifol am Sefydliad y Celfyddydau, Gwyddoniaeth a Thechnoleg

Ffôn: +44(0)1978 293117
Ebost: r.day@glyndwr.ac.uk

Martin Jones

Darlithydd mewn Peirianneg

Ffôn: +44(0)1978 293978

E-bost: Martyn.Jones@glyndwr.ac.uk