Addysgu, Hyfforddi a Datblygu
Addysgu
Mae’r Ganolfan Ymchwil a Hyfforddiant Uwch Gyfansoddion yn cefnogi addysgu ar draws amrywiaeth o raglenni astudio prifysgol:
- Yr Amgylchedd Adeiledig
- BEng (Anrh) Peirianneg Fecanyddol ac Awyrofod
- BEng (Anrh) Gweithgynhyrchu Mecanyddol
- MSc Peirianneg (Awyernegol), (Gweithgynhyrchu Mecanyddol), (Ynni Adnewyddadwy a Chynaliadwy)
- Meistr mewn Athroniaeth (MPhil)
- Doethur mewn Athroniaeth (PhD)
- Cyflwyniad i Ddeunyddiau Cyfansawdd
Hyfforddiant a Datblygu Sgiliau
Mae’r broses weithgynhyrchu a’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer cynhyrchu rhannau a chydrannau deunyddiau cyfansawdd yn wahanol i’r rheiny sydd eu hangen ar gyfer gwaith metel ar hyn o bryd, felly mae hyfforddiant yn y maes hwn, sy'n gofyn am sgiliau lefel uchel, yn bwysig ar gyfer gweithwyr a phrentisiaid yn y diwydiant. Mae’r ganolfan yn cynorthwyo Prentisiaid Airbus Coleg Cambria wrth iddynt weithio tuag at eu cymhwyster.