Wedi’i gomisiynu gan Lywodraeth Cymru, cydweithiodd y tîm â Phrifysgol Caerdydd, Prifysgol Metropolitan Caerdydd, Prifysgol Heriot Watt ac ymgynghorwyr annibynnol i ymchwilio i Angen Blaenoriaethol o fewn deddfwriaeth ddigartrefedd. Gorchwyl eu tasg oedd darparu sylfaen dystiolaeth i’w defnyddio fel sail i Lywodraeth Cymru wneud penderfyniadau o safbwynt dyfodol y prawf Angen Blaenoriaethol yng Nghymru.

Mae’r prawf Angen Blaenoriaethol yn seiliedig ar feini prawf yng nghyswllt p’un a oes gan aelwyd ddigartref yr hawl i gael llety sefydlog trwy’r Ddeddf Tai (1997). Mae’r prawf yn mynnu mai dim ond lle mae’r aelwyd mewn Angen Blaenoriaethol y mae’r ddyletswydd ar awdurdodau lleol i sicrhau llety parhaol yn gymwys. Ystyrir bod aelwydydd yn flaenoriaeth os ydynt yn cynnwys plant dibynnol, merched beichiog neu oedolion sy’n agored i niwed. Ers i Ddeddf Tai’r DU gael ei chyflwyno, mae grwpiau ychwanegol o bobl wedi cael eu hychwanegu at y rhestr o Angen Blaenoriaethol i sicrhau bod mwy o bobl ddigartref yn cael llety.

O dan Ddeddf Tai (Cymru) (2014), cafodd yr angen am brofion Angen Blaenoriaethol ei leihau’n sylweddol. Fodd bynnag, ni chaiff anghenion nifer sylweddol o aelwydydd eu lliniaru’n llwyddiannus. Penderfynwyd bod miloedd o aelwydydd yn ddigartref ond heb fod mewn Angen Blaenoriaethol, ac felly nad oedd dyletswydd i ddarparu llety ar eu cyfer. O ganlyniad i hynny, nod y tîm oedd meithrin dealltwriaeth glir o’r modd y gweithredir y prawf Angen Blaenoriaethol mewn deddfwriaeth yng Nghymru, gan ddysgu o ddiddymu’r prawf yn yr Alban; nodi opsiynau ar gyfer newid; ystyried materion allweddol yn y prosesau gweithredu; ac ystyried effeithiau unrhyw newidiadau i’r prawf Angen Blaenoriaethol.

Roedd Cam Un yn cynnwys gweithdai ag amryw randdeiliaid o’r elusennau digartrefedd, timau tai awdurdodau lleol, ynghyd â’r Gwasanaeth Prawf, yn ogystal â’r rheiny sydd â phrofiad uniongyrchol o ddigartrefedd. Yng Ngham Dau, cafodd rhanddeiliaid dethol gyfle i fynegi eu barn drwy gyfweliadau manwl unigol, a chasglwyd tystiolaeth hefyd ynghylch diddymu’r ddeddfwriaeth yng nghyswllt Angen Blaenoriaethol yn yr Alban. Yng Ngham Tri, gwelwyd y tîm yn dychwelyd at y rhanddeiliaid (y rhai gwreiddiol o Gamau Un a Dau, lle’n bosibl) i gynnal rhagor o weithdai. Roedd Cam Pedwar yn ymwneud â modelu effeithiau tebygol gwahanol opsiynau posibl ar gyfer y prawf Angen Blaenoriaethol yng Nghymru. Yn olaf, roedd Cam Pump yn cynnwys dadansoddi data a llunio’r adroddiad.

Canfu’r tîm bum thema ar gryfderau a gwendidau’r prawf Angen Blaenoriaethol presennol:

  1. Eithrio a blaenoriaethu
  2. Anghysondeb
  3. Trawma
  4. Adnoddau a biwrocratiaeth
  5. Canlyniadau i aelwydydd mewn Angen Blaenoriaethol

O ganlyniad, awgrymwyd opsiynau ar gyfer newidiadau posibl. Gallai Llywodraeth Cymru gadw’r sefyllfa sydd ohoni, argymell dyletswydd i ddarparu llety dros dro ar gyfer pob aelwyd, ychwanegu diwygiad i’r grwpiau a restrir yn y ddeddfwriaeth o ran Angen Blaenoriaethol, neu ddiddymu Angen Blaenoriaethol.

Roedd gan y mwyafrif o’r cyfranogwyr bryderon am y prawf Angen Blaenoriaethol yn ei ffurf bresennol, a ategwyd gan y pryderon yn yr Alban, a arweiniodd at ddiddymu eu prawf hwy. Roedd y cyfranogwyr yn awgrymu bod cynnal y system gyfredol yn eithrio gormod o bobl o lawer, sy’n creu proses anghyfiawn. Fodd bynnag, heb gyllid neu gymorth ychwanegol, roeddynt yn sylweddoli bod rhyw fath o flaenoriaethu yn angenrheidiol.
Roedd llawer o gyfranogwyr o blaid diddymu’r prawf, gyda chyfeiriad arbennig at angen brys ymhlith pobl sy’n cysgu allan a phobl o dan 35 oed, nad oedd yn cael ei ddatrys ar hyn o bryd. Er hynny, lleisiodd lleiafrif ohonynt eu pryderon y byddai newid y prawf Angen Blaenoriaethol yn arwain at roi pwysau ychwanegol ar wasanaethau o ganlyniad i fwy o alw, a fyddai’n effeithio’r llety a’r tai cymdeithasol sydd ar gael.

I gloi, roedd pob cyfranogwr yn cytuno, pa drywydd bynnag a ddilynir gan Lywodraeth Cymru o safbwynt y prawf Angen Blaenoriaethol, y byddai’r canlyniad yn annigonol. Yn hytrach na chynyddu grwpiau blaenoriaeth neu’r cyflenwad o dai lleol, awgrymwyd bod angen buddsoddiad o’r newydd mewn camau i rwystro problemau yn hytrach na cheisio eu gwella - gallai hyn gynnwys buddsoddi yn y gweithlu a mwy o ymarfer sy’n ystyriol o drawma.

Darllenwch yr adroddiad llawn am ragor o fanylion.