Lluniwyd yr astudiaeth hon ar sail pryderon elusen sy’n darparu cymorth i rai sydd wedi colli eu golwg yn Lloegr a oedd yn ceisio cael gwell dealltwriaeth o sefyllfa defnyddwyr gwasanaeth a oedd yn defnyddio alcohol ar lefel broblemus, ac a oedd wedi colli eu golwg. Mae cryn dipyn o dystiolaeth ar gael mewn perthynas â’r cysylltiad rhwng defnyddio alcohol ac amrywiaeth o broblemau iechyd, fel canser, firysau a gludir yn y gwaed, a dementia. Fodd bynnag, ni chafodd y cysylltiadau rhwng defnyddio sylweddau a cholli golwg eu harchwilio’n llawn ar sail samplau cynrychioladol. Er hynny, nid oedd unrhyw astudiaeth wedi canfod barnau’r rheiny sydd wedi colli eu golwg o ran eu harbenigedd o safbwynt eu profiadau yn y cyswllt hwn.

Nod y prosiect cyffredinol oedd adolygu’r dystiolaeth glinigol o safbwynt y cysylltiadau rhwng defnyddio sylweddau a cholli golwg; ynghyd ag archwilio’r hyn y mae defnyddio sylweddau’n ei olygu ym mywydau pobl, a’i swyddogaeth; ac archwilio’r modd yr oedd gweithwyr proffesiynol yn y maes defnyddio sylweddau a gwasanaethau colli golwg yn mynd i’r afael â’r problemau hyn. Roedd yr ymchwilwyr wedi canfod setiau data a oedd yn bodoli eisoes, a chynhaliwyd dadansoddiadau eilaidd o ddata o’r Arolwg Cyffredinol o Ffordd o Fyw Pobl (‘General Lifestyle Survey’/GLS) yn 2009 a 2010, o Arolwg Iechyd Lloegr yn 2000, ac Arolwg Cleifion yr Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol yn 2008. O ran y gangen hon o’r prosiect, cynhaliwyd 17 o gyfweliadau wyneb yn wyneb neu dros y ffôn â defnyddwyr gwasanaeth. Ymhlith cwestiynau’r cyfweliadau yr oedd testunau mewn perthynas â hanes pobl o ran defnyddio sylweddau, eu hanes o ran colli eu golwg, y cysylltiad rhwng colli golwg a defnyddio sylweddau, eu hanes teuluol, eu hanghenion o ran cymorth, ynghyd â chwestiynau yng nghyswllt gwasanaethau ac agweddau cymunedol. Dadansoddwyd y data yn ôl themâu, a nodwyd wyth thema gan yr ymchwilwyr, yr archwiliwyd y tair thema gyntaf yn llawn yn y papur hwn.

(1) Effaith colli golwg ar eu bywydau. Dywedodd y cyfranogwyr eu bod mewn sioc i ddechrau ar ôl colli eu golwg, a arweiniodd at iselder ac ymdeimlad o fod yn ddiwerth ar ôl sylweddoli eu bod wedi colli eu hymdeimlad traddodiadol o ymreolaeth. Roedd y teimlad hwn yn gyffredin ymhlith y rheiny a oedd wedi colli eu golwg i raddau acíwt a graddol. Cafodd effaith sylweddol ar fywydau pobl, o safbwynt cyfyngu eu gallu i yrru, gweithio, gwneud tasgau DIY, neu eu gallu i fwynhau eu hobïau a’u gweithgareddau arferol. Roeddynt yn teimlo’n flin ac yn rhwystredig ar ôl sylweddoli nad oeddent yn gallu cwblhau tasgau ‘normal’.

(2) Defnyddio sylweddau o safbwynt fod hynny wedi achosi i rywun golli eu golwg neu ei fod wedi cyfrannu at hynny. Teimlodd rhai cyfranogwyr bod y ffaith eu bod wedi colli eu golwg yn gysylltiedig â’u defnydd o sylweddau, tra bo eraill yn priodoli hyn i ffactorau eraill. Er y dengys y dystiolaeth ei bod yn debygol bod amryw ffactorau o safbwynt meddygol a ffordd o fyw pobl yn dylanwadu ar golli golwg, roedd rhai cyfranogwyr neu eu gweithwyr gofal iechyd yn teimlo bod eu defnydd o sylweddau wedi arwain yn uniongyrchol at golli eu golwg. O ran tri chyfranogwr, meddyginiaeth ar bresgripsiwn oedd prif achos y ffaith eu bod wedi colli eu golwg. Roedd dau ohonynt wedi ei golli trwy ei defnyddio ar bresgripsiwn, ac un ohonynt o ganlyniad i orddos o feddyginiaeth. O ran y cyfranogwyr eraill, roeddynt yn teimlo bod eu defnydd o sylweddau wedi cyfrannu at y ffaith eu bod wedi colli eu golwg, ochr yn ochr â ffactorau o safbwynt eu ffordd o fyw.

(3) Defnyddio sylweddau i ymdopi â phethau. Siaradodd y cyfranogwyr am ddefnyddio sylweddau i ymdopi â’r ffaith eu bod wedi colli eu golwg, ynghyd ag ynysigrwydd cymdeithasol. Roedd llawer o bobl yn dweud eu bod yn defnyddio sylweddau i ymdopi â cholli eu golwg ynghyd â digwyddiadau eraill yn eu bywydau a oedd yn deillio o hynny, fel cyfarfodydd straenus yn eu gwaith a pherthnasau’n chwalu. Fodd bynnag, dywedodd rhai pobl eu bod wedi bod yn defnyddio sylweddau cyn iddynt golli eu golwg, a bod y ffaith eu bod wedi colli eu golwg wedyn yn gwaethygu’r modd yr oeddynt yn defnyddio sylweddau.

Dengys y canfyddiadau hyn bod y cysylltiad rhwng colli golwg a’r defnydd o sylweddau yn creu nifer o heriau i unigolion. Roedd pob un o’r cyfranogwyr mewn cyfnodau gwahanol o ran y graddau yr oeddynt wedi colli eu golwg, ac roedd defnyddio sylweddau yn chwarae amryw rolau yn y broses. O ran rhai, roeddent yn defnyddio sylweddau cyn colli eu golwg, o ran rhai eraill, roedd wedi digwydd ar yr un adeg neu o ganlyniad iddynt golli eu golwg. Roedd yr astudiaeth yn cefnogi’r hyn a ganfuwyd gan ddamcaniaethwyr a oedd wedi awgrymu’n flaenorol bod defnyddio sylweddau yn fath o fecanwaith ymdopi ar gyfer rhai sydd wedi colli eu golwg, ac roedd yr astudiaeth hon yn ychwanegu tystiolaeth newydd sy’n amlygu’r anawsterau a wynebir gan y boblogaeth hon bob dydd.

Darllenwch y papur cyfan.