Mae digartrefedd yn gyffredin ymhlith pobl sy’n gadael carchar, ac mae’n gysylltiedig ag aildroseddu. Yn hanesyddol, bu’r rheiny sy’n cwblhau dedfryd o lai na 12 mis o garchar yn anghymwys i dderbyn goruchwyliaeth ar ôl eu rhyddhau. Fodd bynnag, roedd Deddfau a gyflwynwyd yng Nghymru a Lloegr yn 2015 i fod i wella’r drefn o safbwynt ailsefydlu pobl sy’n gadael carchar, trwy roi cyfrifoldebau newydd i awdurdodau lleol.

Roedd yr ymchwil hwn yn archwilio profiadau pobl sy’n gadael carchar yng Nghymru trwy gyfrwng arolygon a chyfweliadau. Cwblhaodd cynrychiolwyr o dimau awdurdodau lleol arolygon, a chynhaliwyd cyfweliadau â staff awdurdodau lleol, staff carchardai, staff cymorth tai yn y gymuned, staff o’r Gwasanaethau Prawf sy’n goruchwylio pobl ar yr adeg y byddant yn gadael, ac ar ôl iddynt adael.

Mae polisïau ar lefel strategol yn amlinellu y dylai’r gwaith o fynd i’r afael â digartrefedd ymhlith pobl sy’n gadael carchar ddechrau gyda staff charchardai yn gwneud atgyfeiriadau ar ran carcharwyr, 66 diwrnod cyn iddynt adael. Fodd bynnag, roedd staff awdurdodau lleol yn honni mai prin y byddent yn derbyn yr atgyfeiriadau hyn, ac yn aml, nid oeddynt ond yn gwybod am sefyllfa carcharwr ar ôl ei ryddhau, pan oedd yn ymddangos yn eu swyddfa. Ar yr adegau yr oeddent yn derbyn atgyfeiriad, roedd yn cynnwys gwybodaeth annigonol neu anghywir, a oedd yn ei gwneud yn anodd iddynt fwrw ymlaen â’u hachos. Roedd staff awdurdodau lleol yn honni ymhellach bod cyfathrebu a gweithio mewn partneriaeth â rhai sy’n gweithio mewn carchardai yn anodd, tra bo staff carchardai’n awgrymu bod staff awdurdodau lleol yn rhoi llai o flaenoriaeth i bobl sy’n gadael carchar.

Roedd pobl sy’n gadael carchar, yn enwedig y rheiny a oedd yn cwblhau dedfryd o lai na phedwar mis, yn fwy tebygol o wynebu digartrefedd ar ôl gadael carchar. Dywedodd rhai pobl a oedd yn gadael carchar hefyd bod digartrefedd yn gysylltiedig ag aildroseddu, gan y byddent yn aml yn cyflawni mân droseddau er mwyn cael dychwelyd i’r carchar, gan felly osgoi bod yn ddigartref.

Roedd yr ymchwil yn amlygu heriau systemig o safbwynt ailgartrefu pobl sy’n gadael carchar er mwyn osgoi digartrefedd, ac mae’n cydnabod y cafwyd enghreifftiau o arferion da lle gwelwyd bod anghenion yn cael eu hasesu’n drylwyr. Er bod rhanddeiliaid yn feirniadol o’r modd y gweithredwyd polisi’r Llywodraeth, dywedwyd bod y datblygiad yn gam i’r cyfeiriad iawn. I gloi, dangosodd yr ymchwilwyr bod problemau o ran mabwysiadu ymagwedd ataliol tuag at bobl sy’n gadael carchar, o ganlyniad i gyfyngiadau o fewn carchardai o safbwynt staff, ynghyd â’r flaenoriaeth is a roddir i garcharwyr, y defnydd o ddedfrydau carchar byr, a’r diffyg opsiynau o ran tai.                

Darllenwch y papur llawn.

Mae’r tîm wrthi ar hyn o bryd yn adeiladu ar y gwaith hwn, â hwnnw newydd lwyddo i gael cyllid ar gyfer ymchwil ar y cyd gyda Phrifysgol Glasgow, gan y Sefydliad Cenedlaethol ar Gyfer Ymchwil i Iechyd a Gofal. Cewch ddarllen rhagor am hyn ar y dudalen Prosiectau Cyfredol.