Content Accordions

  • Profiadau rheini a gofalwyr o gael gafael ar Wasanaethau yng Ngogledd Cymru ar gyfer plant ag...

    Unwaith eto, mae Dr Dawn Jones wedi llwyddo i gael cyllid gan Gwelliant Cymru i fwrw ymlaen â’i phrosiect ymchwil sy’n ymwneud ag adolygu modelau gofal cenedlaethol ar gyfer plant a phobl ifanc ag anableddau dysgu. Y llynedd, cafodd Dawn £14,000 ar gyfer mynd i’r afael â gwaith gwerthuso. Gallwch ddarllen yr adroddiad llwyddiannus yma. 

    Darllen mwy.

  • Adolygu Modelau Gofal Cenedlaethol

    Ymchwilydd yn cael arian i adolygu modelau gofal cenedlaethol i blant a phobl ifanc gydag anableddau dysgu

    Mae Dr Dawn Jones, Cymdeithasegydd ac Uwch-ddarlithydd Gofal Cymdeithasol yn PGW, wedi cael y cyllid i ddarparu gwerthusiad, a fydd yn anelu i fanylu ar brofiadau cyfredol defnyddwyr gwasanaethau, yn ogystal â staff sy'n gweithio gyda'r unigolion hyn. 

  • Isafbris am Alcohol

    Mae Dr Wulf Livingston a’r Athro Iolo Madoc-Jones yn arwain ar astudiaeth ymchwil a ariennir gan Lywodraeth Cymru gyda chydweithwyr o Ymgynghoriaeth Figure 8 (Dundee, Yr Alban) a Phrifysgol Gogledd Cymru i werthuso effaith Deddf Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) 2018 ar y defnydd o alcohol yng Nghymru. Cyflwynodd y Ddeddf isafbris am werthu a chyflenwi alcohol yng Nghymru. Ei fwriad oedd lleihau niwed sy’n gysylltiedig ag alcohol, gan gynnwys derbyniadau i’r ysbyty a marwolaethau sy’n gysylltiedig ag alcohol ymhlith yfwyr sydd mewn perygl a rhai a niweidir gan alcohol, sy’n dueddol o yfed mwy o gynhyrchion rhad, sy’n cynnwys lefelau uchel o alcohol.

    Ei fwriad hefyd yw lleihau niwed sy’n gysylltiedig ag alcohol a marwolaethau sy’n gysylltiedig ag alcohol ymhlith y boblogaeth yn gyffredinol. Nod yr astudiaeth bedair blynedd hon yw archwilio’r graddau y cyflawnwyd y nodau hyn. Mae hyn yn cynnwys effaith deddfwriaeth yr isafbris am alcohol ar boblogaethau penodol sy’n yfed ar lefelau peryglus a niweidiol.

  • Partneriaeth Diogelwch Cymunedol

    Mae’r Athro Iolo Madoc-Jones a Louise Blundy wrthi ar hyn y bryd yn ymwneud â phrosiect ar gyfer Partneriaeth Diogelwch Cymunedol Wrecsam. Mae’r astudiaeth 6 mis yn gwerthuso amrywiaeth o ymyriadau sy’n cael eu rhoi ar waith yn Wrecsam, sy’n rhannu’r nod gyffredin o wella diogelwch (a chanfyddiadau o ddiogelwch) pobl mewn mannau cyhoeddus yn Wrecsam, yn enwedig merched a genethod.

  • Atal Digartrefedd

    Mae’r Athro Iolo Madoc-Jones yn dilyn ymlaen o waith blaenorol ar bobl sy’n gadael carchar trwy gydweithredu â chydweithwyr o Brifysgol Glasgow a Phrifysgol Caerdydd mewn Hap-dreial Dan Reolaeth (‘Randomised Control Trial’), a ariennir gan y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil i Iechyd a Gofal (NIHR). Mae’r rheiny sy’n gadael carchar mewn perygl uchel o ddigartrefedd, sydd â goblygiadau ehangach o safbwynt yr economi, e.e. y gost flynyddol gyfartalog a amcangyfrifir ar gyfer un achos o gysgu allan yw £20,128.

    Bwriad Ymyriadau Cyfnod Allweddol (‘Critical Time Interventions’/CTI) yw cefnogi’r rhai mwyaf anghenus, helpu pobl ddigartref i sefydlogi eu sefyllfa o ran tai, trwy gynnig tai yn gyflym, heb amodau. Credir mai’r math hwn o wasanaeth sy’n gweithio orau, ond nid oes unrhyw astudiaeth wedi gwerthuso hyn. Bydd yr astudiaeth hon yn treialu Hap-dreial Dan Reolaeth mewn carchardai yng Nghymru a Lloegr i archwilio p’un a yw CTIs yn effeithiol.

    Bydd y peilot yn ymwneud â phroses a gwerthusiad economaidd gyda phobl o bedwar carchar. Caiff hanner y cyfranogwyr eu neilltuo ar gyfer y CTI a arweinir gan dai, a bydd yr hanner arall yn parhau gyda’r cymorth arferol a ddarperir gan garchardai, y Gwasanaeth Prawf, neu awdurdodau lleol. Bydd y tîm yn dilyn ac yn gwirio sefyllfa’r cyfranogwyr hyd at bedair gwaith yn ystod y flwyddyn ar ôl yr astudiaeth gychwynnol.

  • Deall y dirwedd o ran llety i ferched ag anghenion cymhleth

    Bydd Prifysgol Wrecsam a Llamau, sef elusen sy’n cefnogi pobl ifanc a merched sy’n agored i niwed sy’n profi digartrefedd, yn cydweithredu ar ymarfer cwmpasu sy’n archwilio anghenion tai merched sy’n ymwneud â’r System Cyfiawnder Troseddol yng Nghymru. Bydd hyn yn ymwneud â dadansoddi darpariaeth tai bresennol ac anghenion o ran llety, ac yn archwilio materion o ran argaeledd a mynediad yng nghyswllt prosiectau Tai yn Gyntaf yng Nghymru.

    Merched yw’r lleiafrif ymhlith carcharorion. Maent fel arfer yn agored i niwed, mae ganddynt amrywiaeth o anghenion cymhleth, ac yn debygol o fod wedi’u cam-drin, sy’n wahanol i ddynion sydd wedi troseddu. Cafwyd mai Trais Personol Gan Bartner (‘Intimate Partner Violence’) yw prif achos digartrefedd o safbwynt merched (Yakubovich, 2021); gall ceisio cael mynediad i dai i gael lloches wrth ffoi rhag trais gan bartner fod yn anodd pan fo’r risg o niwed yn parhau.

    Roedd Adroddiad Corston (2007) yn awgrymu bod carchardai wedi’u dylunio’n bennaf ar gyfer dynion cisryweddol heterorywiol, ac nad ydynt yn diwallu anghenion merched. Bydd yr ymchwil hwn yn cwmpasu beth sydd ar gael ar hyn o bryd trwy arolygon a chyfweliadau â rhanddeiliaid. Caiff ei ysgrifennu yn ffurf adroddiad i’w rannu ymhlith yr asiantaethau priodol.

 

Mae prosiectau sy’n cael eu cwmpasu gan aelodau’r Sefydliad ar hyn o bryd yn cynnwys astudiaeth ar bobl goll; iechyd mewn carchardai; ynghyd â’r rhwystrau a wynebir gan bobl hŷn yn Wrecsam o ran trafnidiaeth.


Cysylltwch ag un o’r tîm i gael rhagor o wybodaeth am unrhyw un o’r prosiectau hyn, neu os oes gennych ddiddordeb mewn chwarae rhan.