Mae’r Athro Iolo Madoc-Jones, Dr Caroline Gorden, ac Andy Jones yn ymgymryd ag adolygiad o berfformiad Heddlu Gogledd Cymru mewn perthynas â gorfodi’r gwaharddiad ar hela llwynogod gyda helgwn.

Cyflwynodd Deddf Hela 2004 waharddiad ar hela llwynogod gyda helgwn. Mae’r adolygiad annibynnol hwn yn archwilio sut mae’r ddeddfwriaeth honno’n cael ei gorfodi yng Ngogledd Cymru. Nid yw’n ymwneud ag a yw’r gwaharddiad yn gywir neu’n anghywir. Yn benodol, mae’r adolygiad annibynnol hwn yn archwilio:

  1. Beth yw'r heriau gorfodi ac erlyn sy'n codi yn gysylltiedig â'r ddeddf Hela 2004 i Heddlu Gogledd Cymru a Gwasanaeth Erlyn y Goron?
  2. Beth yw arfer da mewn perthynas â phlismona’r gwaharddiad ar hela?
  3. Pa mor dda mae Heddlu Gogledd Cymru yn perfformio mewn perthynas â digwyddiadau sy'n gysylltiedig â hela llwynogod sy'n cael eu dwyn i'w sylw?
  4. Pa mor dda mae Heddlu Gogledd Cymru yn cydymffurfio â Safonau Cenedlaethol mewn perthynas â chofnodi, ymateb, ymchwilio ac erlyn digwyddiadau sy'n ymwneud â hela llwynogod?

Bydd y tîm sy'n cynnal yr adolygiad yn
• Cynnal arolwg i roi cyfle i gynifer o bobl â phosibl gyfrannu at yr adolygiad.
• Adolygu ffeiliau achos ar ddigwyddiadau sy'n gysylltiedig â hela a ddelir gan Heddlu Gogledd Cymru.
• Cyfweld rhanddeiliaid allweddol