.jpg)
Strategaethau Rheoli Costau Cynaliadwy y Sefydliad er mwyn Gwella Bioamrywiaeth
Mewn seminar ymchwil gan Ysgol Fusnes Wrecsam yn ddiweddar, bu i Eranda Abeysinghe, Ymchwilydd PhD a Darlithydd mewn Cyfrifyddu a Chyllid, gyflwyno ei waith doethurol cyfredol ar sut y gall sefydliadau ddefnyddio strategaethau rheoli cost cynaliadwy er mwyn cefnogi deilliannau bioamrywiaeth. Fel myfyriwr PhD trydedd flwyddyn, mae gwaith ymchwil Eranda yn seiliedig ar y man lle ceir croestoriad rhwng cynaliadwyedd, cyfrifyddu rheoli a strategaeth sefydliadol, sy’n mynd i’r afael â’r bwlch pwysig sydd mewn llenyddiaeth gyfredol.
Agorodd Eranda drwy dynnu sylw at y gydnabyddiaeth gynyddol sydd i fioamrywiaeth fel elfen hanfodol o systemau ecolegol cynaliadwy, ochr yn ochr gyda phryderon cyfredol bod gwaith ymchwil cyfrifo rheoli gan mwyaf wedi anwybyddu sut mae sefydliadau’n prisio a rheoli gweithgareddau sy’n cefnogi bioamrywiaeth. Er bod nifer o gwmnïau nawr yn gwneud addewidion cyhoeddus ynghylch cyfrifoldebau amgylcheddol, mae’r ymrwymiadau yn aml yn parhau i fod yn oddefol ac nid oes ganddynt y fframweithiau rheoli costau strwythuredig sydd ei angen er mwyn gyrru deilliannau ymarferol.
Ffocws astudiaeth achos yw gwrthdaro rhwng dyn ac eliffant yn Sri Lanka, sy’n her amgylcheddol a chymdeithasol arhosol. Mae Sri Lanka yn gartref i oddeutu 2,500-3,000 o eliffantiaid Asiaidd, sy’n ostyngiad dramatig o’r amcangyfrif hanesyddol o oddeutu 30,000 ar ddechrau’r 20fed ganrif, yn bennaf oherwydd colli a rhannu cynefinoedd. Mae eliffantiaid yn Sri Lanka, sydd â gwerth diwylliannol a chrefyddol sylweddol o fewn y gymdeithas Fwdaidd yn bennaf, yn gallu teithio hyd at 30 cilometr y diwrnod i chwilio am fwyd. Mae hyn yn aml yn eu dwyn i ardaloedd amaethyddol yn y nos, gan arwain at niweidio’r cnwd ac o bryd i’w gilydd, gwrthdaro rhwng dyn a byd natur.

Mae llywodraethau, y gymdeithas ddinesig a gweithredwyr o fewn y sector breifat yn Sri Lanka wedi buddsoddi mewn amrywiol strategaethau lliniaru, megis ffensys trydan, coridorau bywyd gwyllt, plannu cnydau amgen (er enghraifft, rhywogaethau mae eliffantiaid yn dueddol o’u hosgoi) a chynlluniau iawndal cymunedol. Fodd bynnag, nododd Eranda bod yr ymchwil ar sut mae sefydliadau’n rheoli a phrisio’r ymyrriadau hyn sy’n gysylltiedig gyda bioamrywiaeth yn gyfyngedig, yn arbennig felly o safbwynt cyfrifyddu rheoli.
Roedd ei waith ymchwil yn cael ei arwain gan ddau gwestiwn craidd:
- Sut y gall strategaethau rheoli cost gael eu cynllunio i gefnogi gwella bioamrywiaeth?
- Pa ddulliau y gall sefydliadau eu mabwysiadu er mwyn datblygu strategaethau rheoli cost cynaliadwy sy’n effeithiol yn ecolegol?
Er mwyn mynd i’r afael â’r cwestiynau hyn, mae Eranda yn defnyddio isomorffiaeth sefydliadol fel lens theoretig, gan ystyried sut mae arferion sefydliadol yn cael eu halinio gyda disgwyliadau amgylcheddol dros amser. Mae’n cynnig fframwaith sy’n integreiddio “3P” cynaliadwyedd - Pobl, Planed a Phrosiectau - gyda rheoli cost yn ganolog iddo, gan bwysleisio gwerth ecolegol a sefydliadol fel ei gilydd.
O safbwynt methodoleg, mae’r ymchwil yn mabwysiadu agwedd dulliau cymysg. Mae hyn yn cynnwys:
- Dadansoddi data eilaidd o adroddiadau arbenigol a datgeliadau sefydliadol sydd ar gael yn gyhoeddus
- Dadansoddi tuedd ac atchweliad er mwyn adnabod patrymau o safbwynt y canlyniadau mewn cost a bioamrywiaeth
- Data ansoddol cynradd drwy gyfrwng cyfweliadau gyda swyddogion y llywodraeth, arweinwyr sefydliadol, NGOau a chymunedau a effeithir gan heriau bioamrywiaeth wedi’u dadansoddi gan ddefnyddio dadansoddiad thematig
- Holiaduron arolwg - a modelu cyffelybiaeth strwythurol (SEM) er mwyn archwilio’r berthynas rhwng strategaethau cost a chanlyniadau bioamrywiaeth.
Yn y pen draw, nod yr ymchwil yw datblygu model rheoli cost sy’n canolbwyntio ar fioamrywiaeth y gellir ei gymhwyso y tu hwnt i achos eliffantod i rywogaethau a chyd-destunau ecolegol eraill, megis teigrod, rheinos neu beillwyr megis y pili pala.
Dangosodd y seminar sut y gall ymchwil cynaliadwy mewn rheoli cyfrifyddu symud y tu hwnt i adrodd ariannol er mwyn archwilio sut mae sefydliadau’n rheoli costau’n strategol er mwyn cefnogi uniondeb ecolegol, gan gynnig llwybrau ar gyfer gwaith ymchwil ac arfer mewn dulliau gwneud penderfyniadau sefydliadol cynaliadwy yn y dyfodol.