decorative

Pan mae Nodau Datblygu Cynaliadwy Byd-eang ar Waith yn Lleol: Cynaliadwyedd mewn Arferion o ddydd i

Mewn Seminar Ymchwil Ysgol Fusnes Wrecsam yn ddiweddar, cyflwynodd Dr Saba Ishaq, Darlithydd mewn Cyfrifyddiaeth a Chyllid, waith ar sut mae Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig (SDGau) yn cael eu dehongli a’u rhoi ar waith o fewn arferion busnes o ddydd i ddydd ym Mhacistan. Archwiliodd y seminar sut mae fframwaith byd-eang o 17 o nodau cyd-gysylltiedig, a nodir yn Agenda 2030 y Cenhedloedd Unedig, yn trosglwyddo i fod yn gamau gweithredu o fewn mentrau maint bychan a chanolig.

UN sustainable development goals grid

Sustainable Development Goals

Mae Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig yn cynrychioli cyfrifoldeb uchelgeisiol byd-eang a rennir, gan fynd i’r afael â phroblemau sy’n amrywio o dlodi ac addysg i weithredu dros yr hinsawdd a thwf economaidd. Fodd bynnag, er bod sefydliadau mawr yn aml yn ymwneud â’r SDGau drwy strategaethau cynaliadwyedd ffurfiol a strwythurau adrodd, mae mentrau maint bach a chanolig yn gweithredu o dan amodau gwahanol iawn. Gyda phwysau gweithredol tynnach a llai o adnoddau, dyw cwmnïau llai ddim fel arfer yn ddarostyngedig i ofynion adrodd ffurfiol ac yn aml maent yn wynebu cyfyngiadau masnachol yn syth.

Mewn economïau sy’n datblygu megis Pacistan, mae’r heriau yma wedi’u dylanwadu ymhellach gan realiti amgylchiadau lleol. Mae economi Pacistan yn cael ei gyrru i raddau helaeth gan fentrau maint bychan a chanolig, gyda phoblogaeth ifanc sydd angen cyflogaeth ac sy’n cael eu hamlygu fwy-fwy i risgiau sy’n gysylltiedig â’r hinsawdd. Gan hynny, dyw cynaliadwyedd ddim yn gysyniad haniaethol ond yn hytrach mae’n broblem busnes frys sy’n bresennol ar hyn o bryd. Ar yr un pryd, mae tensiynau’n bodoli rhwng delfrydau cynhwysol, byd-eang y SDGau a’r realiti ymarferol sy’n wynebu perchnogion busnesau sy’n gweithio o fewn cyfyngiadau eu hadnoddau.

Mae ymchwil Dr Ishaq yn canolbwyntio ar ddeall sut y daw’r nodau byd-eang yma i fod yn ystyrlon ac yn rhai y gellir gweithredu arnynt o fewn arferion bob dydd mentrau maint bach a chanolig. Yn hytrach na chymryd yn ganiataol bod busnesau’n mabwysiadu’r Nodau Datblygu Cynaliadwy mewn ffordd ffurfiol neu strwythuredig, mae ei gwaith yn gofyn: sut mae perchnogion o Bacistan yn dehongli, trosi a gweithredu’r SDGau yn eu gweithrediadau o ddydd i ddydd? Beth mae cynaliadwyedd yn ei olygu yn ymarferol? Pa resymeg sydd y tu ôl i’r penderfyniadau busnes, ac ymhle, os o gwbl, mae iaith nodau dysgu cynaliadwy yn ymddangos?

Mae’r prosiect yn tynnu ar theori gwneud synnwyr, yn arbennig felly gwaith Karl Weick (1995), sy’n archwilio sut mae pobl yn llunio ystyr mewn amgylcheddau cymhleth. Mae theori gwneud synnwyr yn rhoi pwyslais ar debygolrwydd yn hytrach na chywirdeb: mae unigolion a sefydliadau’n datblygu dehongliadau sy’n ddigon cydlynol i arwain camau gweithredu, hyd yn oed os nad ydynt yn fanwl gywir yn dechnegol. Yn aml, bydd ystyr yn cael ei lunio’n ôl-syllol, wrth i bobl adfyfyrio ar weithredoedd a phrofiadau’r gorffennol. Mewn amgylcheddau cymhleth, mae unigolion yn rhoi gwybodaeth mewn cromfachau, gan ddewis canolbwyntio ar arwyddion sy’n ymddangos fel y rhai mwyaf trawiadol. Mae fframiau deongliadol sy’n bodoli ar hyn o bryd yn galluogi i syniadau newydd, megis y nodau datblygu cynaliadwy, gael eu trosi’n gysyniadau sy’n ystyrlon yn lleol.

Drwy gyfweliadau gyda pherchnogion mentrau maint bach a chanolig ym Mhacistan, mae Dr Ishaq yn archwilio sut mae cynaliadwyedd yn cael ei ddeall o fewn arfer o ddydd i ddydd. Gan ddefnyddio dadansoddiad thematig iteraidd, mae’n archwilio sut mae nodau byd-eang yn cael eu hail-fframio drwy brofiad bywyd a’u mewnosod o fewn penderfyniadau busnes arferol, yn hytrach na dogfennau polisi ffurfiol.

Drwy ailddychmygu ymgysylltiad mentrau bychain a chanolig gyda’r nodau datblygu cynaliadwy fel proses o wneud synnwyr, mae’r ymchwil hwn yn ymestyn llenyddiaeth cynaliadwyedd sy’n bodoli eisoes o fewn economïau sy’n datblygu. Mae’n symud y ffocws oddi ar gydymffurfio ac adrodd tuag at ddeall sut mae uchelgeisiau byd-eang yn cael eu negodi, eu haddasu a’u gwneud i weithio o fewn realiti busnesau lleol.

Darparodd y seminar sylwadau craff ar sut mae fframweithiau cynaliadwyedd byd-eang yn ymffurfio ar lawr gwlad, gan ein hatgoffa bod newid ystyrlon yn aml yn dechrau gyda phenderfyniadau o ddydd i ddydd, nid gyda dogfennau polisi.