Llwyfan Map Cyhoeddus

Prosiect a gaiff ei arwain gan Brifysgol Caergrawnt ar y cyd â Phrifysgol Caerdydd a Phrifysgol Wrecsam yw’r Llwyfan Map Cyhoeddus. Yr Athro Alec Shepley, sef Athro’r Celfyddydau a’r Gymdeithas, yw’r Cyd-ymchwilydd ar gyfer Prifysgol Wrecsam.
Nod y Llwyfan Map Cyhoeddus yw creu Llwyfan Map Cyhoeddus i Genedlaethau’r Dyfodol ar gyfer cofnodi’r pontio gwyrdd ar Ynys Môn. Mae’n un o blith pedwar o grantiau newydd Ecosystemau Pontio Gwyrdd sy’n werth £4.6 miliwn a roddir gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC).
I gael rhagor o wybodaeth, edrychwch ar dudalen we’r Llwyfan Map Cyhoeddus.