Agweddau Cerddorion Jazz tuag at Recordio mewn Stiwdio
Ionawr 2022
Gall syniad cerddorion jazz o ddilysrwydd fod yn wahanol i eraill, gyda rhai traddodiadolwyr yn gweld technegau stiwdio fel cyflwyniad anonest o bosibl o ddarn cerddoriaeth. Mae Jazz yn adnabyddus am waith byrfyfyr, os yw technegau ôl-gynhyrchu yn dileu gwir brofiad y rhannau byrfyfyr, gellir hyn gael ei weld yn negyddol. Mae’r rhan fwyaf o gerddorion yn hoffi bod yn dryloyw a chyflwyno adroddiad o’u proses gynhyrchu sy’n fframio eu gwaith o fewn ffiniau derbyniol i’r hyn y maent yn ei ystyried yn ‘ddilys’. Enghraifft o hyn yw'r band Queen, a wadodd y defnydd o synths wrth gynhyrchu cerddoriaeth ar eu halbymau (sain na ellid ei chynhyrchu ar lwyfan yn fyw ar y pryd), efallai er mwyn tawelu meddwl eu cefnogwyr o'u dilysrwydd fel Band roc.
Ar gyfer y gwaith peilot hwn, ceisiodd Dr Jason Woolley ddeall agweddau cerddorion Jazz tuag at ddefnyddio technegau stiwdio neu ymyriadau i berfformiadau byw wedi'u recordio. Canolbwyntiodd Dr Woolley ar arferion recordio stiwdio sy’n gwella perfformiad ‘byw’, megis disodli agweddau llai apelgar ar berfformiad byw wedi’i recordio, yn hytrach nag addurniadau ôl-gynhyrchu eraill, mewn ymgais i ddeall trothwy derbynioldeb ar gyfer dilysrwydd.
Gwahoddodd Dr Woolley ymarferwyr jazz sy'n ymgysylltu â recordio a chynhyrchu stiwdio i gymryd rhan mewn arolwg ar-lein sy'n cynnwys cwestiynau penagored ac arolwg barn. Yn gyntaf, gofynnodd yr arolwg i’r ymatebwr ddisgrifio’u hymarfer. Arweiniodd y cwestiwn hwn at sawl disgrifydd, gan gynnwys 'cerddoriaeth fyrfyfyr', 'jazz rydd', ac 'electronig', a oedd yn arddangos ehangder y derminoleg sy'n ymwneud â'r genre cerddoriaeth hwn, ac a gadarnhaodd fod angen cwestiwn penagored i sicrhau nad oedd unrhyw genre neu gyfranogwr yn teimlo eu bod wedi'u cau allan o'r prosiect.
Cofnodwyd tri deg tri o ymatebion dienw, a dadansoddwyd y data gan ddefnyddio dull a elwir yn Grounded Theory. Mae’r dull hwn yn golygu cynhyrchu damcaniaeth botensial newydd sydd ‘wedi’i seilio’ yn y codio data, yn hytrach na gweithio o safbwynt damcaniaethol sy’n bodoli eisoes a gosod y farn hon ar y data.
Arweiniodd dehongliadau Dr Woolley at y casgliad nad oes un farn a rennir gan bawb o ran yr hyn y mae cerddorion Jazz yn ei ystyried yn swm derbyniol o ôl-gynhyrchu recordiad stiwdio. Cafodd y safbwyntiau eu categoreiddio naill ai'n idealistig neu'n bragmatig. Roedd sylwadau idealistig yn dangos bod ffactorau y tu allan i’r esthetig sain wedi dylanwadu ar benderfyniadau’r cerddorion i ddefnyddio technegau stiwdio, tra bod sylwadau pragmatig yn awgrymu y byddai cerddorion yn defnyddio pa bynnag ddulliau posibl i gyflawni’r esthetig sy’n swnio orau.
Mae’r stiwdio yn adnodd i’w ddefnyddio mewn unrhyw ffordd bosib er mwyn cynhyrchu’r canlyniad gorau
Roedd rhywfaint o gonsensws na ddylai ymyrraeth stiwdio newid nac effeithio ar waith byrfyfyr rhydd, gyda rhai yn awgrymu y dylid gwneud y gwaith angenrheidiol ar ôl y recordiad cyn belled â'i fod yn dal i gynrychioli'r cysyniad gwreiddiol. Ymddengys nad oedd y trothwy derbynioldeb wedi'i osod ar gyfer y cerddorion hyn gan natur a maint y prosesu, yn hytrach, mae'n ymwneud â pha fath o elfen gerddorol sy'n cael ei phrosesu. Er enghraifft, i rai cyfranogwyr, roedd eu ffiniau dilysrwydd yn ymestyn i gynnwys ymyriadau ar berfformiad llai na delfrydol o gerddoriaeth wedi'i chyfansoddi, ond nid oedd yn cynnwys addasu elfen fyrfyfyr anfoddhaol. Felly, mae unrhyw beth sydd wedi'i rag-gyfansoddi yn union fel y mae wedi'i gyfansoddi yn cael ei ystyried y tu allan i'r foment, tra byddai defnyddio technegau ar elfennau byrfyfyr yn ystumio’r foment.
Darllenwch y papur llawn yn y Journal on the Art of Record Production.