Newid yn yr Hinsawdd yw un o’r materion byd-eang mwyaf enbyd heddiw, ac mae cartrefi’r DU yn cyfrannu at nwyon tŷ gwydr sy’n cael eu rhyddhau a’u dal yn ein hatmosffer sy’n cynhesu’r Ddaear. Felly sut mae datgarboneiddio ein cartrefi yn effeithiol?

Ymchwiliodd Dr David Sprake, Uwch Ddarlithydd mewn Peirianneg Fecanyddol, i hyn ar gyfer ei PhD. Casglodd David wybodaeth wyddonol gyfredol ar newid hinsawdd, gan amlinellu canlyniadau posibl parhau i ddefnyddio tanwydd ffosil. Mae’r defnydd o ynni a’i ôl troed carbon bellach yn cael ei fonitro ar draws y byd, gan arwain at dargedau a rhagamcanion ynghylch yr hyn a allai ddigwydd, megis cynnydd yn lefel y môr, mudo torfol a phrinder tai, a llai o ddŵr croyw ar gael. Ffurfiodd llywodraethau byd-eang y Panel Rhynglywodraethol ar Newid yn yr Hinsawdd (IPCC) i geisio mynd i'r afael â'r bygythiad gwirioneddol ac agos hwn i'r byd. 

Creodd Llywodraeth y DU bolisi Cartrefi Di-Garbon yn 2006 a oedd yn nodi y dylai pob cartref newydd fod yn garbon niwtral erbyn 2016. Yn 2015, rhoddodd y llywodraeth y gorau i'r polisi oherwydd ei bod yn amhosibl ei gyflawni. Felly, beth yw’r ateb, wrth symud ymlaen?

Mae David yn dweud bod angen trawsnewid y system ynni fyd-eang yn sylweddol i liniaru effaith newid hinsawdd, sydd angen cyfranogiad gan wleidyddion, busnesau, a’r boblogaeth yn gyffredinol. Gallai’r trawsnewid ymwneud ag ynni adnewyddadwy ar raddfa genedlaethol, gan greu grid sy’n tynnu ar ynni o amrywiaeth o ffynonellau adnewyddadwy, e.e. ynni gwynt, solar, hydro, ac ynni niwclear. Gan fod allyriadau tai’r DU yn cyfrif am 27% o gyfanswm allyriadau carbon y DU, mae’n bwysig inni droi ein sylw at ynni adnewyddadwy carbon isel ar gyfer tai domestig. 

Nod ymchwil PhD David oedd ymchwilio i’r ateb gorau ar gyfer ystâd dai allyriadau di-garbon yn y DU a fyddai’n bodloni datblygwyr tai, cynllunwyr a chwsmeriaid. Mae prinder tai cronig yn y DU ac nid yw’r cyflenwad tai yn cyd-fynd â’r galw. Mae'r targed o adeiladu digon o dai ar gyfer y boblogaeth yn groes i'r targed o leihau allyriadau carbon-deuocsid; felly, roedd y gwaith yn cynnwys dadansoddiadau modelu ariannol ac ynni helaeth i ddod o hyd i ateb ymarferol. Canfu David y byddai modd cyflenwi ynni ar gyfer trydan cartref, dŵr poeth, gwresogi gofod, a gwefru cerbydau trydan gan ddefnyddio ynni adnewyddadwy, er nad ar gyfradd gyson. 

Roedd yr ateb gorau yn dibynnu ar gymhellion yr adeiladwyr tai neu brynwyr tai; ar gyfer peirianwyr, tyrbinau gwynt a storio ynni trydanol ddaeth i'r brig, ond yn ariannol, yr ateb gorau fyddai tyrbinau gwynt yn unig. Ar gyfer maint tŷ cyffredin, efallai y bydd yn rhaid i brynwr newydd dalu mwy yn gyfan gwbl, ond byddent yn arbed arian ar eu biliau ynni blynyddol. 

Ar raddfa, daeth David o hyd i ateb cyflenwad ynni optimwm i ystâd 1000 o dai yn Swydd Efrog gan ystyried y datblygiadau peirianneg a thechnolegol presennol, cyllid, fforddiadwyedd, diogelwch a chymuned. Mae’r ateb yn cynnig model ar gyfer datgarboneiddio cartrefi’r DU yn llwyr, a allai ddarparu tua 85% o hunangynhaliaeth ynni’r flwyddyn. 

Darllenwch fwy am ddadansoddi microgrid gyda ffynonellau ynni adnewyddadwy a dadansoddiadau rhanddeiliaid o agweddau at adeiladu tai di-garbon