Canolfan Technoleg Optig
Mae'r grwpiau masnachol ac ymchwil a leolir yn OpTIC yn darparu atebion a gwasanaethau peirianneg optegol ac arwyneb arbenigol i ystod o sectorau diwydiannol ac academaidd gan gynnwys seryddiaeth, lled-ddargludyddion, awyrofod a gofod. Gall y tîm ddarparu gwasanaethau ar blatfform ymchwil a diwydiannol o ddylunio i adeiladu system.
Cyfleuster Cotio Ffilm Tenau yw'r cyntaf o'i fath yng Nghymru. Mae'n darparu cyfleuster ymchwil pwrpasol ar raddfa gynhyrchu er mwyn caniatáu ymchwil a datblygu'r genhedlaeth nesaf o gotiau ffilm tenau. Cydweithio gyda phartneriaid diwydiannol i alluogi datblygu cynhyrchion a phrosesau newydd ar gyfer ystod eang o gymwysiadau diwydiannol.