"A rim-driven future? Wrexham University’s FAST-Fan project"

Mae Prifysgol Wrecsam yn arwain consortiwm o gwmnïau drôn diwydiannol a gyriad trydanol i ddatblygu math newydd o wyntyll dwythellol ar gyfer hedfan cyflym â phwer trydan. Mae gyriant trydanol yn rhagflaenu cyfnod cyffrous mewn peirianneg awyrennol, a'r nod yw hedfan heb allyriadau ynghyd â dim gostyngiad mewn galluoedd gweithredol. Mae pwysigrwydd gwarchod yr amgylchedd a chyflenwad ynni trwy leihau allyriadau awyrennau yn flaenoriaeth allweddol yn adroddiad y Comisiwn Ewropeaidd “Flightpath 2050 Europe’s Vision for Aviation” ac er y gallai hyn ymddangos yn ddyhead pell, mae’r tasgau sy’n gysylltiedig â goresgyn y problemau technegol eisoes ar y gweill yn barod.

Un o'r prif heriau i'w hwynebu yw sut i gyflawni hedfan cyflym effeithlon gan ddefnyddio technoleg modur trydanol. Mae’r prosiect “Gwyntyll Cyflym” a ariennir gan WEFO yn golygu bod Prifysgol Wrecsam yn cydweithio â’i phartneriaid diwydiannol i ddatblygu cyfluniad gwyntyll trydan cyflym arloesol. Bydd y dechnoleg gwyntyll newydd yn cynnig manteision posibl llai o rwystr i lif aer a chywasgu aml-gam. Bydd y cynllun Gwyntyll Cyflym hefyd yn lleihau colledion ac yn gwella triniaeth a pherfformiad yr awyren. Mae Prifysgol Glyndŵr yn datblygu “arddangoswr technoleg” prototeip ar gyfer profi hedfan mewn awyren ddi-griw ac yn credu mai’r dechnoleg hon yw’r ateb delfrydol ar gyfer cymwysiadau gyriant awyrennau cyflym a gwthiad gwasgaredig yn y dyfodol.

Mae'r Gwyntyll Cyflym yn cael ei ddatblygu i fodloni gofynion y sector awyrofod, y disgwylir iddo dyfu’n sylweddol yn y blynyddoedd i ddod gyda datblygiad cymwysiadau symudedd trefol newydd fel tacsis hedfan, dronau dosbarthu a cherbydau heb yrrwr.

Mae'r heriau technegol ac ymchwil yn sylweddol, gan gynnwys:

  • Dyluniad ac integreiddiad cydrannau electromagnetig y wyntyll ddwythellol ac wrth reoli ei gydosodiad rotor,
  • Yr heriau mecanyddol sy'n gysylltiedig â'r cyfluniad gwyntyll modur newydd hwn,
  • Dyluniad strwythurol ysgafn sydd ei angen ar gyfer strwythur y corff a gweithgynhyrchu dwythell fewnfa a gwacáu,
  • Goresgyn y materion sy'n ymwneud â trorym uchel, gwres a dirgryniad.
  • Sicrhau bod rheolaeth drydanol y modur a chymudiad y dirwyniadau yn sail i berfformiad modur.

Mae pob un o'r partneriaid diwydiannol yn dod â sgiliau a phrofiad arbenigol gwerthfawr i'r prosiect. Y partneriaid yw Motor Design Ltd, Invertek UK Ltd, Geola Technologies Ltd, Ad-Manum UAS Technologies Ltd.