Wedi’i gysylltu’n agos â’n cyfleuster ymchwil dadelfennu, mae ein hymchwil yn y maes Bioarchaeoleg ac Anthropoleg Fforensig yn canolbwyntio’n fwy penodol ar weddillion dynol ar draws amryw o wahanol gyd-destunau daearyddol a hanesyddol. Gyda chysylltiadau lleol agos gyda’r Poulton Archaeological Trust a chysylltiadau rhyngwladol gyda’r Cyprus Reference Research Collection, mae gan fyfyrwyr a staff ymchwil fynediad at safleoedd cloddio a deunyddiau ysgerbydol o amrywiaeth o gyfnodau amser. Mae’r ymchwil a gynhaliwyd yma yn ein galluogi i ddeall yn well pob agwedd ar ymchwilio, adfer ac adnabod gweddillion dynol, a ffactorau sy’n dylanwadu ar yr agweddau hyn, mewn lleoliadau fforensig ac archaeolegol.

Wedi’i sefydlu ochr yn ochr â lansiad y cwrs MRes mewn Bioarchaeoleg ac Anthropoleg Fforensig yn 2019, mae’r gwaith ymchwil wedi mynd i’r afael ag ystod eang o bynciau yn y maes anatomeg ysgerbydol dynol a phalaeopatholeg, gan gynnwys:

  • Dimorffiad Rhywiol o Hwmerws Groegaidd-Cypraidd Cyfoes gan ddefnyddio Atchweliad Logistaidd Deuaidd.
  • Newidiadau Entheseal Ysgerbydol fel Cynrychiolydd o Ffordd o Fyw Galwedigaethol yn y Casgliad Ysgerbydol DOCS Oneida.
  • Technegau Ffotogrametrig SfM fel dull cyfleus a chost effeithiol yn y maes anthropoleg fforensig.
  • Dadansoddi Toriadau Trawmatig mewn Esgyrn Cyn Llosgi.
  • Newidiadau morffolegol i ran isaf y goes: Adolygiad o daffonomi, trawma a phalaeopatholeg ar y tibia a ffibwla ar gasgliad Poulton

Gydag ystafell waith osteoleg benodol, rydym wedi’n cyfarparu’n llawn i ymgymryd ag ystod o waith dadansoddi ysgerbydol a chynnig ymgynghoriaeth gwaith achos rheolaidd pan gaiff gweddillion eu darganfod yn lleol. O gyngor ar chwilio ac adfer, hyd at ymweliadau safle a dadansoddi ar ôl cloddio, gallwn wneud defnydd da o ddulliau traddodiadol crefft maes a morffometrigau ochr yn ochr â thechnolegau cyfoes fel UAVs a’r cyfleusterau yn y labordy FAST 3D er mwyn ymgymryd â gwaith sydd ar flaen y gad yn y diwydiant.