Mae ein hymchwil Gwyddoniaeth Gymhwysol yn canolbwyntio ar feysydd allweddol sydd wedi ymrwymo i ddefnyddio gwyddoniaeth mewn cymwysiadau byd go iawn: gwyddorau fforensig, cemeg, a microbioleg. O fewn Gwyddorau Fforensig, mae gan y rîm wybodaeth eang o gymhwyso dadansoddeg fforensig a chemegol i archwilio troseddau wrth ddefnyddio ein tŷ safle trosedd pwrpasol. Mae gennym hefyd y gyntaf ar gyfer astudiaeth taffonomi yng Nghymru – cyfleuster er mwyn helpu i archwilio dadelfeniad gweddillion. O fewn Gwyddoniaeth Gymhwysol, mae gennym arbenigedd mewn hydrocoloidau bwyd a phrosesu bwyd, yn enwedig mewn perthynas â defnyddio polymerau hydawdd dŵr naturiol wrth wella sefydlogrwydd cellog nwyddau traul. Yn ogystal â hynny, mae gan y tîm ddiddordeb mewn biocemeg carbohydradau cymhleth, microbioleg firysau a bacteria, a metaboledd colesterol a heneiddio.

Content Accordions

Ymchwil

Cwrdd â'r Tîm