Fel un o’r unig gyfleusterau ymchwil dadelfennu yn y DU, mae ein cyfleuster trwyddedig DEFRA yn cynnig cyfle i staff a myfyrwyr ymchwil ymgymryd â gwaith arbrofol mewn perthynas â dadelfennu. 

Taffonomi fforensig yw’r astudiaeth o beth sy’n digwydd i’r corff a sut mae’r amgylchedd yn effeithio ar y prosesau hyn, yn yr amser rhwng y farwolaeth a darganfod gweddillion dynol. Datblygwyd yr astudiaeth o taffonomi yn wreiddiol o fewn palaeontoleg er mwyn ateb y cwestiynau holl bwysig mewn perthynas â chadw a dadfeiliad corff cynhanesyddol, ac olrhain ffosilau, gan gynnwys deinosoriaid. Cafodd ei mabwysiadu a'i diwygio'n ddiweddarach gan archaeolegwyr er mwyn deall dirywiad a hindreuliad esgyrn, o safleoedd claddu hanesyddol i ddatgelu olion anifeiliaid. Mabwysiadwyd a diwygiwyd astudiaeth taffonomi yn ddiweddarach gan anthropolegwyr fforensig er mwyn cymhwyso arwyddocâd fforensig i dystiolaeth taffonomi, fel dyddio marwolaeth ac ail-adeiladu’r digwyddiadau o gwmpas marwolaeth. 

Wedi’i sefydlu gyntaf yn 2014, mae’r cyfleuster ymchwilio dadelfennu yma ym Mhrifysgol Glyndŵr Wrecsam wedi ymgymryd ag ystod o brosiectau, gan gynnwys:  

  • Cynnig Cronfa Ddata ar gyfer Taffonomi Fforensig: Cynlluniau ar gyfer cronfa mynediad agored ar gyfer addysgu ac ymchwilio prosesau post-mortem
  • Taffonomi Fforensig: Datblygiadau Ymchwil y DU i Ddadelfennu Post-mortem
  • Heriau ymchwil taffonomi fforensig yn y DU
  • Effeithiau maint corff ar raddfa dadelfennu yn y DU: Mesur cyfanswm sgôr corff a chanran y newid mewn màs Baedd gwyllt
  • Cloc Olyniaeth Microbaidd mewn Dadelfennu Halenog
  • Effaith dŵr halen ar allu cŵn canfod cyrff i ganfod arogleuon

Rydym yn frwd dros gynnwys technolegau newydd, fel delweddu thermal, sganio 3D a dronau, yn ogystal â’r cyfle i addysgu dan arweiniad ymchwil, gan alluogi myfyrwyr i ennill profiad ymarferol drwy’r rhaglenni BSc Gwyddor Fforensig ac MRes Anthropoleg Fforensig a Bioarchaeoleg.