Adsefydlu Cardiaidd
Adsefydlu Cardiaidd
Mae ymchwil yn yr Adran Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff, a gynhaliwyd gan Dr Chelsea Batty, yn canolbwyntio ar faes adsefydlu cardiaidd. Mae adsefydlu cardiaidd yn driniaeth sy'n seiliedig ar dystiolaeth gyda'r nod o adsefydlu'r rhai sy'n dioddef o glefyd cardiofasgwlaidd. Mae cleifion sy'n cael eu cyfeirio at adsefydlu cardiaidd yn cael eu rhagnodi i gwblhau sesiynau ymarfer corff dan oruchwyliaeth lle mae'n ofynnol iddynt ymarfer corff am o leiaf 20 munud ar 40-70% o'r gwahaniaeth yn nifer uchaf curiadau’r galon wrth ymarfer a’r gyfradd wrth orffwys (‘heart rate reserve’). Mae ymchwil Dr Batty, gan gynnwys ei phrosiect ymchwil doethurol, wedi archwilio ymlyniad cleifion i raglenni adsefydlu cardiaidd. Mae presenoldeb cleifion ar raglenni adsefydlu wedi cael ei effeithio'n bennaf gan broblemau ariannu a diffyg adnoddau.
Mae ymchwil presennol Dr Batty yn archwilio a fydd darparu fideos digidol i gleifion adsefydlu cardiaidd cyn dechrau eu rhaglen adsefydlu yn ddefnyddiol i gleifion trwy roi gwybodaeth iddynt am sut i ymarfer corff yn gywir, yn ddiogel ac am yr amser cywir ac ar y dwysedd cywir nid yn unig yn ystod sesiynau ymarfer corff dan oruchwyliaeth ond yn ystod eu hamser eu hunain hefyd. Mae'r prosiect hefyd yn archwilio a yw'r fideos digidol yn gwneud i gleifion deimlo'n fwy cyfforddus gydag ymarfer corff a’u gwneud yn fwy hyderus y gallant gyrraedd y targedau ymarfer corff rhagnodedig o'r cychwyn cyntaf, o gofio y gall dioddef digwyddiad cardiaidd roi straen a phryder diangen ar gleifion.