Mae gan yr adran chwaraeon ystod eang o gyfleusterau amlbwrpas sy'n ymroddedig i ymchwil, addysgu a phrofi perfformiad. Mae'r labordy Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff wedi'i achredu gan y British Associated of Sport and Exercise Sciences Association (BASES). Mae gan y labordy ystod o offer i gefnogi gweithgaredd ymchwil ac fe'i defnyddir wrth ddarparu'r gwasanaeth ymgynghori chwaraeon sydd ar gael i gleientiaid allanol. Mae ein labordy wedi'i gyfarparu â:

• Peiriannau rhedeg moduraidd HP Cosmos
• Ergomedrau Beic Monark 
• Wattbike 
• Dadansoddwr Nwy Cortex Metalyzer
• SECA mBCA 515 (Dadansoddwr Cyfansoddiad y Corff)
• Bagiau Douglas
• Dadansoddwr nwy Servomex a mesurydd nwy sych Harvard
• Dadansoddwr ECG
• Offer samplu gwaed
• Offer anthropometrig
• Offer Profi Perfformiad gan gynnwys, Mat Neidio, Synwyryddion Cyflymder (‘Speed Gates’), dynamomedrau mesur cryfder grip llaw ac ati. 

Disgwylir i'n labordy cryfder a chyflyru a biomecaneg newydd sbon agor yn hydref 2023 a bydd yn galluogi ystod ehangach o ymchwil ar offer a thechnoleg newydd amrywiol. Bydd yr offer labordy yn cynnwys: 

• System Dal Symudiad Qualysis
• Meddalwedd Biofecanyddol a dadansoddi Visual3D 
• Dynamomedrau Isocinetig 
• Platiau Grym
• Trac Sprintio
• Cawell (‘rack’) ar gyfer pwysau rhydd
• Bariau Codi Olympaidd, Barbwysau, Dymbelau, Pwysau Siâp Tecell 
• Meddalwedd Dadansoddi Perfformiad