Gwella seilwaith gwyrdd ar gyfer rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig Wrecsam

Chwefror 2022

Mae’r tîm Iechyd Cyhoeddus a Llesiant ar ganol gwerthuso prosiect i wneud cyfres o welliannau amgylcheddol ar gyfer trigolion sy’n byw yn ardaloedd Parc Caia a Phlas Madoc yn Wrecsam. Drwy ofyn am help partneriaid allweddol, fel Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru, Cadw'ch Gymru'n Daclus, a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, mae’r prosiect wedi ceisio ymgorffori’r gwaith o fewn y gymuned a gwella gwytnwch yr ecosystem leol.

Bydd un rhan o’r prosiect yn cynnwys meithrin capasiti gwirfoddoli o fewn y parciau, ac ymgysylltu â thrigolion sy’n gofalu am eu mannau gwyrdd, er mwyn gwella’r ardal breswyl i bawb. Drwy gynnwys y gymuned leol wrth reoli’r mannau, yn ogystal â chynnig manteision llesol, bydd hyn hefyd yn cynyddu ymdeimlad o berchnogaeth a chydlyniad ymysg trigolion.

Bydd rhan arall o’r gwaith yn cynnwys plannu coed strwythurol er mwyn lleihau llygredd aer a sŵn y traffig trwm ar hyd y briffordd A gyfagos. Mae bod ymysg glesni a natur yn cynnig buddion iechyd a llesiant amhrisiadwy.

Hyd yn hyn, mae’r ymchwilwyr wedi cynnal cyfweliadau gyda rhanddeiliaid a phartneriaid allweddol er mwyn archwilio beth sydd bwysicaf iddyn nhw. Mae eu myfyrdodau wedi bod yn amhrisiadwy wrth ddysgu am yr heriau, cryfderau a’r prif wersi mewn perthynas â’r seilwaith cymunedol yn yr ardaloedd daearyddol hyn, heb sôn am lywio’r tîm mewn perthynas ag effeithiau prosiect hirdymor posibl. 
Bwriedir cwblhau’r prosiect cyffrous yn ddiweddarach eleni, felly cadwch lygad am yr adroddiadau a fideo hyrwyddo.