Mae Dr Simon Stewart yn dadlau dros gynyddu argaeledd rhaglenni Gwaith Ieuenctid Rhyngwladol. Mae Gwaith Ieuenctid Rhyngwladol wedi bod yn anodd ei ddiffinio, gyda rhai pobl yn ei weld fel ‘profiad twristiaid’ yn unig. Fodd bynnag, mae Gwaith Ieuenctid Rhyngwladol sy'n arwain at ddysgu rhyngddiwylliannol yn cynnig profiad heb ei ail i bobl ifanc ac fe ddylai fod yn agored i gymaint o bobl ifanc â phosibl. Ond, gyda chyllidebau cyfyngedig ac ychydig o dystiolaeth wyddonol i arddangos manteision Gwaith Ieuenctid Rhyngwladol, ychydig iawn o gynnydd sydd wedi’i wneud o ran cyflwyno rhaglenni Gwaith Ieuenctid Rhyngwladol ledled Cymru.

Mewn ymgais i ddarparu’r dystiolaeth ategol sydd ei angen i amlygu gwerth y rhaglenni hyn, cynhaliodd Simon nifer o gyfweliadau gyda Gweithwyr Ieuenctid Proffesiynol i ymchwilio i'w dealltwriaeth a'u barn ar Waith Ieuenctid Rhyngwladol. Gan ddefnyddio dull dadansoddi llais-ganolog perthynol Gilligan, roedd y naratifau a gafwyd o’r cyfweliadau yn adrodd straeon gan ddefnyddio lleisiau unigryw’r cyfranogwyr. Trwy naratif y cyfranogwyr, cafwyd amrywiaeth o werthusiadau o Waith Ieuenctid Rhyngwladol, ac roedd yn amlwg nad oedd pawb ar yr un dudalen wrth ystyried y diffiniad. Mae'n anoddach egluro rhinweddau Gwaith Ieuenctid Rhyngwladol os yw pobl yn dehongli'r ymadrodd yn wahanol.

Un dehongliad oedd bod Gwaith Ieuenctid Rhyngwladol yn herio’r naratif gwaharddol o ‘wahaniaeth’. Yn yr amgylchedd byd-eang sydd ohoni, mae angen i’r genhedlaeth nesaf o bobl ifanc fod yn gyfarwydd ac yn gyfforddus â gwahaniaethau. Dywedir hefyd bod Gwaith Ieuenctid Rhyngwladol yn cynnig llu o sgiliau ac yn gwella datblygiad personol, megis mwy o hunanhyder, annibyniaeth, galluoedd myfyrio, a gwell sgiliau cymdeithasol ac iechyd meddwl. Nododd y Gweithwyr Ieuenctid fod y bobl ifanc y buont yn gweithio gyda nhw ar leoliad rhyngwladol wedi gwella hunan-ddealltwriaeth a thwf personol, ac wedi datblygu sgiliau meddwl beirniadol hanfodol i lywio byd cymdeithasol dryslyd heddiw o newyddion ffug a damcaniaethau cynllwyn.