Mai 2021

Dr Joanne Pike (yn y llun gyda chath robotig) oedd y prif awdur papur a oedd yn ymchwilio ‘companotics’, cathod robotiaid, ar gyfer pobl gartref â dementia. Mae yna fanteision amlwg o therapi gyda chymorth anifail anwes, yn enwedig i'r rhai sydd â nam ar y cof. Nod yr astudiaeth ymchwil hon oedd archwilio effeithiau cath anwes robotig yn amgylchedd y cartref lle'r oedd y person â dementia yn byw bywyd annibynnol gyda chymorth teulu a gofalwyr

Ymunodd y tîm ymchwil â phum cyfranogwr gwirfoddol o Wrecsam a’r cyffiniau ac ar ôl rhoi gwybodaeth a chael trafodaeth addasrwydd, gadawyd cath robot gyda’r cyfranogwyr a oedd am gymryd rhan. Ystyriwyd bod pob un o’r cyfranogwyr yn byw gyda symptomau dementia ac yn byw gartref dan ofal teulu, ffrindiau neu ofalwyr.

Cynhaliodd yr ymchwilwyr un cyfweliad cychwynnol byr gyda'r cyfranogwyr a'u teuluoedd bythefnos ar ôl iddynt gael eu cath, a chyfweliad hirach arall dri mis ar ôl y gath. Anogwyd y cyfranogwyr a'u teuluoedd i dynnu lluniau (hunanffotograffiaeth) i gofnodi atgofion a hwyluso trafodaeth. Crëwyd y dyfeisiau ‘Companotic’ gan gwmni o'r enw Ageless Innovations ac mae'r gath yn mewian, a chanu grwndi, ac yn symud mewn ymateb i gyffyrddiad. Roedd pob cyfranogwr yn cadw'r gath ar ôl i'r astudiaeth ymchwil ddod i ben.

Ystyriwyd data’r cyfweliad yn ei gyfanrwydd a’i ddehongli drwy lens nyrsio, yn unol â chefndir academaidd yr awdur arweiniol.

Nodwyd pedair thema ar draws y data cyfweld:

Derbyn a gwrthod

Gwrthododd rhai cyfranogwyr y gath ar unwaith oherwydd nad oeddent naill yn hoffi cathod neu eu bod yn teimlo bod y gath yn edrych yn rhy arswydus ac yn dangos atgasedd a diffyg ymddiriedaeth tuag at y gath. Disgrifiodd y rhai a dderbyniodd y gath eu bod yn hoff o gathod neu yn gweld y gath robot yn ddeniadol yn weledol.

Tynnu sylw

Roedd y gath yn tynnu sylw rhai cyfranogwyr ac roedd yn rhywbeth i'w fwynhau a rhoi mwythau iddi. Fodd bynnag, nid oedd yn cymryd lle cath go iawn yn llwyr. Roedd un cyfranogwr yn caru'r gath gymaint nes iddi ei rhoi i'r gwely ar y soffa gyda'r nos a gofalu amdani fel cath go iawn.

Cyfathrebu

I rai, ysgogodd y gath sgwrs rhwng y cyfranogwyr a'u teuluoedd a'u gofalwyr, a nododd teuluoedd fod newydd-deb y gath yn para o leiaf dri mis, rhwng y cyfweliad cyntaf a'r ail gyfweliad. Ar gyfer un cyfranogwr â symptomau dementia difrifol, fe wnaeth y gath ei helpu i ddod yn llai encilgar. Soniodd teulu arall am sut roedd y gath yn annog ymddygiad tawel a sefydlog gydag aelod o'u teulu, gan sylwi ar well cof hyd yn oed.

Cysylltu â'r gath ac eraill

Llwyddodd y gath i ysgogi sgwrs rhwng cyfranogwyr a'u teuluoedd. Cafodd un cyfranogwr ymateb cadarnhaol cryf i'r gath, ac roedd hyn yn dal yn amlwg ar ôl tri mis; dywedodd merch y cyfranogwr fod y gath wedi ‘rhoi bywyd newydd iddi’. Mewn cyferbyniad, roedd cyfranogwr arall yn mwynhau cwmni’r gath ond yn mynd yn bryderus ynglŷn â’r sŵn mewian felly fe’i diffoddodd ond ei chadw yn agos i roi mwythau iddi.

Dangosodd y canfyddiadau'n glir bod y cathod robotig wedi helpu gyda chyfathrebu a thynnu sylw rhai cyfranogwyr a nodwyd newidiadau cryf mewn ymddygiad a hwyliau. Roedd yn ymddangos bod y cathod hefyd yn helpu teuluoedd y cyfranogwyr yn anuniongyrchol trwy dawelu'r hwyliau yn yr ystafell a gweithredu fel angor i'r rhai a oedd â symptomau cymedrol i ddifrifol o ddementia. Roedd rhai cyfranogwyr yn bondio'n emosiynol â'r cathod, gan siarad yn gariadus â nhw hyd yn oed pan nad oeddent yn gallu siarad â phobl.

“Mae canlyniadau’r astudiaeth hon yn dangos bod manteision cadarnhaol i unigolion sy’n byw gartref, lle mae cymorth yn cael ei dderbyn gan eraill a lle mae’r gath robot yn cael ei derbyn…”

“Er bod yr astudiaeth a adroddwyd ar raddfa fach, mae wedi cynnig cipolwg unigryw a phwysig ar briodoldeb cyflwyno anifeiliaid anwes robotig i amgylchedd cartref unigolyn.”

Darllen y papur llawn.