Gofalwyr hŷn LHDTC+
Gofalwyr hŷn LHDTC+: Archwilio eu hanghenion iechyd a’u hanghenion cymdeithasol
Amcangyfrifir bod 5.7 miliwn o oedolion yn rhoi gofal anffurfiol i unigolion 50 oed a hŷn yn y DU ar hyn o bryd (Y Swyddfa Ystadegau Gwladol, 2021). Ac yng Nghymru, amcangyfrifir bod yna oddeutu 370,000 o ofalwyr di-dâl o bob oed. Fodd bynnag, ni cheir unrhyw ystadegau clir ynglŷn â gofalwyr di-dâl Lesbiaidd, Hoyw, Deurywiol a Thrawsryweddol (LHDTC+). Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn cyfrifo’r ffigwr hwn fel 1.5% o’r boblogaeth (yn seiliedig ar amcangyfrifiadau gan Stonewall [2017]) bod 3.7 milwn o bobl yn y DU yn LHDTh, ac mae Carers UK (2022) yn amcangyfrif bod yna 390,000 o ofalwyr di-dâl LHDT ym Mhrydain. Mae’r rhan fwyaf o’r astudiaethau a’r gwaith ymchwil sy’n ymwneud yn benodol â phobl LHDTC+ wedi’u cynnal naill ai yn yr Unol Daleithiau neu yn y DU, ond ceir prinder gwaith ymchwil yn ymwneud â Chymru, yn enwedig o ran anghenion gofalwyr hŷn LHDTC+ yng Ngogledd Cymru. Felly, cynhaliwyd astudiaeth fechan gan aelodau’r tîm nyrsio, ar y cyd â sefydliadau partner allanol, i ymchwilio ymhellach i anghenion cymorth a gofal cymdeithasol gofalwyr hŷn LHDTC+ yng Ngogledd Cymru. Rhagwelir y bydd y prosiect yn cyfrannu at ddatblygu ymyriadau gyda’r boblogaeth hon a ymyleiddiwyd, gan helpu i lunio ymchwil, polisïau a gwasanaethau gofal cymdeithasol yn y dyfodol a fydd yn sicrhau gofal croesawgar i bawb.
Cynhaliwyd holiadur ar-lein ar gyfer gofalwyr LHDTC+ hŷn (50+ oed) trwy Ogledd Cymru ar safle arolygon ar-lein JICS. Hysbysebwyd yr arolwg hwn yn eang ar gyfyngau cymdeithasol y Brifysgol, mewn grwpiau LHDTC+ lleol perthnasol (safleoedd Facebook ac ar gyfryngau cymdeithasol eraill) a thrwy gyfrwng systemau cyfathrebu a chysylltiadau ein sefydliadau partner.
Rhagwelwyd y byddai’r sampl yn fach gan fod maint y gymuned LHDTC+ yng Ngogledd Cymru yn gymharol fach, a hefyd oherwydd ffocws demograffig cyfyng y cyfranogwyr. Cymerodd deg o gyfranogwyr ran yn yr astudiaeth, ac roedd y mwyafrif o’r rhain yn uniaethu fel pobl lesbiaidd a phobl 55-64 oed. Dim ond un a oedd yn uniaethu fel unigolyn trawsryweddol.
Fel y gellid disgwyl, roedd y salwch/anabledd wedi effeithio’n fawr ar fywydau’r bobl a oedd yn derbyn gofal a hefyd ar fywydau’r gofalwyr. Soniodd y mwyafrif am amryfal ffynonellau straen, yn cynnwys colli eu gwaith, lludded yn sgil yr agweddau corfforol ar eu dyletswyddau gofalu, y ffaith eu bod yn colli eu bywydau eu hunain, ynysigrwydd cymdeithasol a dirywiad yn eu hiechyd meddwl.
Wrth archwilio’r effeithiau negyddol a gâi eu hunaniaeth LHDTC+ ar eu rôl ofalu ac ar ryngweithio â’r systemau gofal, dywedodd 50% o’r cyfranogwr eu bod wedi cael profiadau negyddol gydag asiantaethau a staff gofal.
Y brif broblem y soniwyd amdani oedd amlygrwydd ymarfer heteronormadol ymhlith y staff. Roedd hyn yn golygu bod y gofalwyr yn gorfod datgelu eu cyfeiriadedd rhywiol i staff gofal dro ar ôl tro – rhywbeth a ychwanegai at eu straen a’u lludded.
Soniodd y cyfranogwyr am nifer o themâu a fyddai’n eu cynorthwyo yn eu rôl ofalu, sef:
- Byddai’n fuddiol pe bai’r staff yn darparu gofal sy’n sensitif i bobl LHDTC+, gan ragdybio i raddau llai bod eu perthynas yn heterorywiol
- Ymweliadau mwy mynych gan staff gofal
- Clust i wrando a gwell dealltwriaeth ymhlith y gymdeithas
- Dull haws o lywio trwy’r systemau iechyd a gofal cymdeithasol
- Mwy o gyngor a help ariannol.
Mae’r astudiaeth hon yn ategu ac yn llywio llenyddiaeth yn ymwneud â phobl LHDTC+ sy’n heneiddio ac ystyriaethau o ran bywydau ac anghenion gofalwyr LHDTC+ hŷn. Ymhellach, mae gan y prif feysydd sy’n destun pryder yn yr astudiaeth hon oblygiadau o ran ymarfer, ynghyd â goblygiadau o ran y polisïau sy’n llywio’r ymarfer hwnnw.
Caiff y profiadau a ddisgrifir gan ofalwyr LHDTC+ hŷn yn yr astudiaeth hon eu hadlewyrchu i raddau helaeth ym mhrofiadau gofalwyr hŷn yn gyffredinol ac yn y profiadau a nodwyd yn flaenorol mewn llenyddiaeth sy’n ymwneud â gofalwyr LHDTC+ - yn bennaf, y canlyniadau ofnadwy a ddaw i ran bywydau’r gofalwyr a’r bobl y gofalant amdanynt yn sgil salwch ac anabledd. Mae’r profiadau hyn yn effeithio ar bob agwedd ar fywydau’r bobl dan sylw, gan arwain yn aml at straen enfawr, ynysigrwydd cymdeithasol, colledion ariannol a phroblemau gydag iechyd meddwl. Yn ychwanegol at hyn, mae’r bobl dan sylw yn teimlo eu bod yn ‘colli eu hymdeimlad o’r hunan’, eu bod yn anweledig, ac mai gofalwyr ydynt yn unig yn hytrach na’u bod yn unigolion yn eu rhinwedd eu hunain. Ceir darlun o bobl sy’n cael trafferth i ddelio â’u baich gofalu; pobl sydd, yn aml, yn teimlo nad oes cymorth wrth law gan y gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol nac ychwaith gan y gymdeithas yn gyffredinol. Mae’r bobl hyn yn teimlo ar goll wrth iddynt geisio dod o hyd i’w ffordd trwy systemau cymhleth tra’n ceisio sicrhau’r gofal a’r cymorth y maent hwy a’u hanwyliaid eu hangen.
Yn ychwanegol at y ‘baich cyffredinol’ hwn, dywedodd yr ymatebwyr eu bod yn teimlo haen ychwanegol o anesmwythyd gan eu bod yn fynych yn dod ar draws ymarfer heteronormadol ymhlith staff asiantaethau/gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Er mwyn dilysu natur eu perthynas, roeddynt yn teimlo bod angen iddynt ddatgelu eu cyfeiriadedd rhywiol i’r staff dro ar ôl tro, gan orfod gwneud hynny pan oeddynt wedi ymlâdd ac yn agored iawn i niwed. Dywedodd yr ymatebwyr fod angen i staff iechyd a gofal cymdeithasol roi gofal sy’n sensitif i bobl LHDTC+. Hefyd, dywedasant fod angen i’r gymdeithas yn gyffredinol, yn ogystal ag aelodau’r gymuned LHDTC+, ddeall eu sefyllfa’n well.
Argymhellion yr astudiaeth
- Dylid cynnal archwiliad ar raddfa fawr yn ymwneud ag anghenion gofal a chymorth gofalwyr LHDTC+ ledled Cymru. Gellid gwneud hyn fel rhan o elfen ymchwil y Cynllun Gweithredu LHDTC+ i Gymru (Llywodraeth Cymru, 2023).
- Dylid hyrwyddo canlyniadau’r astudiaeth hon yn eang ymhlith darparwyr iechyd a gofal cymdeithasol ac asiantaethau cymorth i ofalwyr, er mwyn helpu i lunio polisïau ac arferion.
- Dylid datblygu a chynnal hyfforddiant ymwybyddiaeth i staff, yn enwedig i staff sy’n gweithio mewn asiantaethau gofal cymdeithasol a chymorth i ofalwyr. Dylai’r hyfforddiant gynnwys enghreifftiau o brofiadau bywyd ac enghreifftiau o arferion gorau.
- Dylid lledaenu pecynnau cymorth Gofalwyr LHDTC+ yn ehangach a dylai asiantaethau gofal a chymorth eu rhoi ar waith yn ehangach (Gofalwyr Cymru a Cymru Pride, 2017, Carers UK, 2023).
- Dylid datblygu adnoddau a grwpiau cymorth yn benodol ar gyfer gofalwyr hŷn LHDTC+, rhai wyneb yn wyneb a rhai ar-lein.
Yn ystod y degawdau diwethaf, mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU wedi cymryd camau pwysig i wella’r amodau cymdeithasol y mae unigolion LHDTC+ yn heneiddio ynddynt. Yn ddiweddar, pennodd Llywodraeth Cymru weledigaeth i sicrhau mai Cymru fydd y ‘genedl fwyaf cyfeillgar yn Ewrop i bobl LHDTC+’ (Llywodraeth Cymru, 2023). Er mwyn gwireddu’r weledigaeth hon, mae angen gwneud llawer o waith o hyd i greu amgylcheddau cymdeithasol a systemau iechyd a gofal cymdeithasol amrywiol a all gynnig cymorth priodol i boblogaeth amrywiol sy’n heneiddio.
LGBTQ+ Older Carers report Welsh