.jpg)
Grant Datblygiad Personol Ymchwil Bach
- Ar Agor: 5ed o Ionawr
- Dyddiad Cau: 2il o Chwefror
- Swm: 5 x £1000
- Amserlen Ariannu: Rhaid i’r arian gael ei wario erbyn 30ain Mehefin 2026
- Adrodd: Rhaid cyflwyno adroddiad cynnydd erbyn 31ain Gorffennaf 2026
- Amserlen: Hysbysir ymgeiswyr llwyddiannus erbyn 16eg o Chwefror
Mae’r Grant Datblygiad Personol Ymchwil Bach FACE yn cynnig ariannu hyd at £1000 er mwyn cefnogi gweithgareddau datblygu ymchwil unigol.
Bwriadwyd y grant hwn i helpu staff academaidd, ymchwilwyr a myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig i ymestyn eu datblygiad proffesiynol ymhellach gyda gweithgareddau cefnogol sy’n cyfrannu mewn ffordd ystyrlon at syniad ymchwil neu agenda sy’n bodoli eisoes. Mae’n rhaid i’r ariannu gael ei ddefnyddio i gefnogi gweithgaredd sy’n gysylltiedig ag ymchwil, a allai gynnwys (ond nid yw’n gyfyngedig i’r canlynol):
- Cyfranogi mewn gweithdai, hyfforddiant neu gyrsiau byrion
- Casglu data ac astudiaethau peilot rhagarweiniol
- Caffael deunydd ymchwil neu adnoddau
- Gweithgareddau rhwydweithio sy’n gwella cydweithredu neu gyfnewid gwybodaeth
- Rhannu unrhyw syniadau ymchwil cynnar neu ganfyddiadau
- Gwaith maes neu ymweliadau â safleoedd sy’n berthnasol i’r prosiect
Rhaid i’r ceisiadau fod yn seiliedig mewn ffordd eglur ar syniad ymchwil sy’n bodoli eisoes a dylai amlinellu sut y bydd y gweithgaredd arfaethedig yn cefnogi datblygu neu symud y syniad hwnnw yn ei flaen.
Rydym yn annog yn arbennig geisiadau sy’n ymwneud â chyfranogiad myfyrwyr - p’un a yw hynny drwy weithgaredd cydweithredol, cyfleoedd mentora, neu rolau cefnogol sy’n cyfrannu at eu datblygiad ymchwil eu hunain.
Cymhwystra
- Ar agor i staff academaidd, ymchwilwyr a myfyrwyr ymchwil ym Mhrifysgol Wrecsam
- Rhaid i ymgeiswyr fod â syniad ymchwil sydd wedi’i ddiffinio’n eglur neu brosiect sydd eisoes yn cael ei ddatblygu