.jpg)
Ariannu Gwaith Ymchwil Mewnol
Ym Mhrifysgol Wrecsam rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo diwylliant ymchwil cynhwysol a rhyngddisgyblaethol sy’n gwella gallu ac sy’n cyflawni canlyniadau ardderchog, tra’n cefnogi cymuned amrywiol o ymchwilwyr. Trwy brosiectau cydweithredol, ceisiadau ariannu ar y cyd a phartneriaethau dylanwadol gyda’r byd academaidd, diwydiant a chymunedau, ein nod yw sbarduno arloesedda masnacheiddio sy’n trawsnewid cymdeithas.
Rydym yn falch o gynnig rhaglen ariannu fewnol gynhwysfawr er mwyn cefnogi datblygu ein hymchwilwyr a'u syniadau ymhellach. Mae ein Rhaglen Ariannu Mewnol 2026–27 yn cyflwyno saith ffrwd ariannu wahanol er mwyn darparu adnoddau ariannol a chefnogaeth i staff, timau ymchwil, a myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig.
Mae’n hanfodol prisio a chyllidebu eich prosiect yn fanwl gywir. Cysylltwch os gwelwch yn dda gyda’r Rheolwyr Datblygu Cynigion Emma Taylor a Rachel Lacey am gymorth gyda chostio a’r broses ymgeisio. Noder bod gan wahanol alwadau am grantiau wahanol feini prawf cymhwysedd, dyddiadau agor a chau, ffurflenni cais a gweithdrefnau adrodd. Ni dderbynnir ceisiadau gan ymgeiswyr sydd ag adroddiadau cynnydd yn eisiau.