• Galwad Agored
  • Swm: Hyd at £400
    Cyfyngiad y Cais: Un cais ar gyfer pob person bob blwyddyn academaidd
  • Adrodd: Adroddiad adborth yn dilyn y gynhadledd
  • Amserlen: Dylech ganiatáu 5 diwrnod gwaith o gyflwyno eich cais er mwyn derbyn llythyr canlyniad

Mae Gwobr Cyfraniad y Gynhadledd yn darparu hyd at £400 er mwyn cefnogi staff academaidd a myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig sy’n cyflwyno eu hymchwil mewn cynadleddau. Bwriad y wobr hon yw cynorthwyo gyda’r gost sy’n gysylltiedig gyda chyfrannu’n weithredol mewn cynadleddau academaidd neu broffesiynol - yn benodol, lle mae’r ymgeisydd yn cyflwyno papur, poster, cyfrannu at banel neu unrhyw gyflwyniad ymchwil arall.

Nodwch os gwelwch yn dda: ni ellir defnyddio’r ariannu hwn ar gyfer mynychu cynhadledd yn unig. Mae’n rhaid i ymgeiswyr fod yn cyflwyno eu hymchwil eu hunain yn y digwyddiad.

Cymhwystra

  • Ar agor i staff academaidd, ymchwilwyr a myfyrwyr ymchwil ym Mhrifysgol Wrecsam
  • Caniateir un cais ar gyfer pob person bob blwyddyn academaidd yn unig
  • Ariannu ar gael yn unig er mwyn cefnogi cyflwyno’n weithredol mewn cynhadledd, nid dim ond mynychu.