• Ar Agor: 10fed Tachwedd
  • Dyddiad Cau: 19eg Rhagfyr
  • Swm: Dyfernir 4 x grantiau £5000
  • Amserlen Ariannu: Rhaid i’r arian gael ei wario erbyn 30ain Mehefin 2026
  • Adrodd: Rhaid cyflwyno adroddiad cynnydd erbyn 31ain Gorffennaf 2026
  • Amserlen: Hysbysir ymgeiswyr llwyddiannus erbyn 19eg o Ionawr

Mae Ariannu Arloesi’n gwahodd cynigion ar gyfer prosiectau ymchwil arloesol ym maes Cyfansoddion, Ynni Adnewyddadwy, Systemau Pweru, Gyriannau Trydanol, Antenau, a Roboteg. Nod y prosiect hwn yw cefnogi ymchwilwyr sydd ar gamau cyntaf datblygu prosiect drwy eu galluogi i ddatblygu cysyniadau neu ddulliau newydd sy’n gallu ffurfio sylfaen ar gyfer ceisiadau grant mwy.

Mae hefyd yn ceisio helpu ymchwilwyr i sefydlu cydweithrediadau newydd, gan gynnwys partneriaethau traws-ddisgyblaethol a chysylltiadau gyda’r diwydiant. Gellir defnyddio’r ariannu er mwyn cael mynediad at offer, meddalwedd neu adnoddau arbenigol hanfodol sydd eu hangen er mwyn symbylu gweithgaredd ymchwil. Yn ogystal, gall y cynllun gefnogi astudiaethau dichonolrwydd, arbrofion prawf o gysyniad, neu gasglu data peilot er mwyn profi syniadau a chasglu tystiolaeth ragarweiniol er mwyn paratoi ar gyfer bidiau mwy sylweddol.

Cymhwystra

  • Ar agor i staff academaidd, ymchwilwyr a myfyrwyr ymchwil ym Mhrifysgol Wrecsam
  • Mae’n rhaid i’r ymchwil alinio’n uniongyrchol gydag un neu fwy o’r meysydd ffocws rhestredig.