• Ar Agor: 27ain Hydref
  • Dyddiad Cau: 8fed Rhagfyr
  • Swm: 1 x £2,000
  • Amserlen Ariannu: Rhaid i’r arian gael ei wario erbyn 30ain Mehefin 2026
  • Adrodd: Rhaid cyflwyno adroddiad cynnydd erbyn 31ain Gorffennaf 2026
  • Amserlen: Hysbysir ymgeiswyr llwyddiannus erbyn 19eg Ionawr

Mae Rhwydwaith Datblygiad Concordat Ymchwilydd Prifysgol Wrecsam a MO:SAIC (Cyfleoedd Amlddiwylliannol: Rhwydwaith Cymunedol Cefnogol, Hygyrch a Chynhwysol) Prifysgol Wrecsam yn falch o gyhoeddi lansiad y Wobr Cynhwysiant Cydraddoldeb Hil ac Ymchwil, sef cyfle ariannu mewnol sy’n adlewyrchu ein hymrwymiadau sefydliadol cryf i adeiladau cymuned academaidd ac ymchwil amrywiol, gynhwysol a theg.

Bwriad Gwobr Cynhwysiant Cydraddoldeb Hil ac Ymchwil yw cefnogi a datblygu gyrfaoedd ymchwil staff academaidd a myfyrwyr ôl-ddoethurol Du, Asiaidd ac o Leiafrifoedd Ethnig ym Mhrifysgol Wrecsam. Ein nod yw sicrhau bod yr holl ymchwilwyr yn teimlo eu bod wedi’u grymuso a’u cefnogi wrth symud eu gyrfaoedd yn eu blaen yn unol â’u huchelgeisiau personol a phroffesiynol.

Anogir ymgeiswyr i gynnig gweithgareddau ymchwil ar draws unrhyw thema neu ddisgyblaeth. Nid oes unrhyw gyfyngiadau ar faes yr ymchwil - yr hyn sy’n cyfrif yw sut mae’r gweithgaredd yn cyfrannu at eich datblygiad fel ymchwilydd.

Cymhwystra

  • Ar agor i holl staff a myfyrwyr ym Mhrifysgol Wrecsam
  • Unigolion sy’n disgrifio eu cefndir fel Du, Asiaidd neu o Leiafrif Ethnig