• Ar Agor: 8fed Rhagfyr
  • Dyddiad Cau: 9fed o Ionawr
  • Swm: Dyfernir 3 x grantiau £3000
  • Amserlen Ariannu: Rhaid i’r arian gael ei wario erbyn 30ain Mehefin 2026
  • Adrodd: Rhaid cyflwyno adroddiad cynnydd erbyn 31ain Gorffennaf 2026
  • Amserlen: Hysbysir ymgeiswyr llwyddiannus erbyn 2il o Chwefror

Bwriad y gwobrau hyn yw cefnogi prosiectau ymchwil sy’n cael eu datblygu drwy bartneriaethau rhwng ymchwilwyr academaidd a chydweithredwyr allanol. Bydd y grantiau’n cefnogi prosiectau sy’n defnyddio dull cyd-gynhyrchu. Dylai mentrau ymchwil arddangos ymrwymiad cryf i gydweithredu rhyng-ddisgyblaethol a thraws-sector.

Mae’n rhaid i brosiectau ddatblygu ymchwil a gyd-gynhyrchwyd sy’n drwyadl, yn gynhwysol ac wedi’i fwriadu i ddarparu traweffaith ystyrlon. Yn ogystal, dylai cynigion ddangos potensial ar gyfer adeiladu perthnasoedd tymor hir sy’n cefnogi gweithgaredd ymchwil cynaledig a pharhaus.

Cymhwystra

  • Ar agor i staff academaidd, ymchwilwyr a myfyrwyr ymchwil ym Mhrifysgol Wrecsam
  • Prosiectau a gynhelir mewn partneriaeth gydag o leiaf un sefydliad anacademaidd.
  • Prosiectau o unrhyw ddisgyblaeth, cyn belled â’u bod yn ymwneud ag ymchwil a gyd-gynhyrchwyd.