.jpg)
Grant Diwylliant Ymchwil
- Ar Agor: 1af Hydref
- Dyddiad Cau: 10fed Tachwedd
- Swm: Hyd at £1500
- Amserlen Ariannu: Rhaid i’r arian gael ei wario erbyn 30ain Mehefin 2026
- Adrodd: Rhaid cyflwyno adroddiad cynnydd erbyn 31ain Gorffennaf 2026
- Amserlen: Hysbysir ymgeiswyr llwyddiannus erbyn 1af o Ragfyr
Mae’r Grant Diwylliant Ymchwil ar gael i’r holl staff a myfyrwyr ymchwil ôl-raddedig er mwyn ymgeisio am arian i gyflawni mentrau fydd yn creu traweffaith bositif, arhosol ar ein cymuned ymchwil. Mae’r gronfa hon yn cefnogi prosiectau sydd wedi’u diffinio’n dda sy’n meithrin cydweithredu, arloesi a gwelliannau cynaliadwy i’n diwylliant ymchwil. Mae’r prif themâu ar gyfer y cyfle ariannu hwn yn cynnwys ffocws cryf ar Degwch, Amrywiaeth, Cynhwysiant a Hygyrchedd (EIDA), gan gefnogi prosiectau sy’n mewnosod ac yn datblygu egwyddorion EIDA uwch o fewn yr amgylchedd ymchwil.
Maes allweddol arall yw Lles, ac annog mentrau sy’n hyrwyddo arferion gweithio llesol ac iach ar gyfer ymchwilwyr ar bob cam o’u gyrfa. Mae’r grant hefyd yn cefnogi gweithgareddau sydd wedi’u bwriadu ar gyfer Adeiladu’r Gymuned Ymchwil, yn arbennig rhai sy’n cryfhau cysylltiadau, meithrin cydweithredu a hyrwyddo hunaniaeth a rennir o fewn cymuned ymchwil Prifysgol Wrecsam. Yn olaf, mae yna bwyslais ar Hyrwyddo Gweithio’n Rhyngddisgyblaethol, gyda ffocws ar brosiectau sy’n pontio disgyblaethau, annog cydweithredu traws-gyfadrannol a sbarduno partneriaethau ymchwil arloesol.
Cymhwystra
- Ar agor i holl staff a myfyrwyr ym Mhrifysgol Wrecsam
- Gall ceisiadau gael eu gwneud yn unigol neu fel rhan o dîm
- Anogir cynigion cydweithredol, traws-ddisgyblaethol yn gryf