.jpg)
Grant Ymchwil Cynhwysiant Cymdeithasol
- Ar Agor: 1 Hydref
- Dyddiad Cau: 12fed Tachwedd
- Swm: Dyfernir 2 x grantiau £5000
- Amserlen Ariannu: Rhaid i’r arian gael ei wario erbyn 30ain Mehefin 2026
- Adrodd: Rhaid cyflwyno adroddiad cynnydd erbyn 31ain Gorffennaf 2026
- Amserlen: Hysbysir ymgeiswyr llwyddiannus erbyn 8fed o Ragfyr
Mae’r Grant Ymchwil Cynhwysiant Cymdeithasol yn cefnogi prosiectau ymchwil bach dylanwadol sy’n mynd i’r afael â heriau cymdeithasol yn Wrecsam a thu hwnt. Mae dwy wobr o £5,000 ar gael ar gyfer prosiectau fydd yn cyfrannu at newid ystyrlon, gan fod yn sail i bolisi ac ymarfer ac amlygu lleisiau’r rhai yr effeithir arnynt fwyaf. Mae'n rhaid i gynigion fod ag o leiaf un o'r themâu canlynol:
- ️Tai a Digartrefedd
- Alcohol a Chyffuriau Eraill
- Trawma a Llesiant
- Effaith Wrecsam
- Cynhwysiant Cymdeithasol a Chyfiawnder
Cymhwystra
- Ar agor i academyddion ac ymchwilwyr Prifysgol Wrecsam
- Mae’n rhaid i brosiectau alinio’n eglur gyda meysydd blaenoriaeth Cyfiawnder
- Mae’n rhaid i brosiectau fod â deilliannau eglur, mesuradwy y gellir eu defnyddio i ddatblygu’r maes ymhellach.
- Dylai ceisiadau ddangos ymrwymiad i gynhwysiant a bod yn cynnwys profiad bywyd lle mae’n bosib.
- Dylai ceisiadau arddangos y potensial ar gyfer dylanwadu ar bolisi, ymarfer a/neu ddeilliannau i’r gymuned.
- Mae’n rhaid i’r arweinydd fod yn aelod o staff yn y Brifysgol, ond mae anogaeth gref i sicrhau cyd-arweinwyr sy’n fyfyrwyr.