.jpg)
Grantiau Arloesi
- Ar Agor: 1af Hydref
- Dyddiad Cau: 17eg Tachwedd
- Swm: 1 x £10,000
- Amserlen Ariannu: Rhaid i’r arian gael ei wario erbyn 30ain Mehefin 2026
- Adrodd: Rhaid cyflwyno adroddiad cynnydd erbyn 31ain Gorffennaf 2026
- Amserlen: Hysbysir ymgeiswyr llwyddiannus erbyn 15fed o Ragfyr
Mae Ariannu Arloesi’n gwahodd cynigion ar gyfer prosiectau ymchwil arloesol ym maes Cyfansoddion, Ynni Adnewyddadwy, Systemau Pweru, Gyriannau Trydanol, Antenau, a Roboteg. Nod yr ariannu hwn yw cefnogi ymchwil newydd a chyfrannu at symud y prif feysydd yma yn eu blaen.
Prif Feysydd Ffocws:
- Deunyddiau Cyfansawdd: Datblygu uwch ddeunyddiau megis cyfansoddion strwythurol neu ddeunyddiau cyfansawdd cynaliadwy. Datblygu prosesau gweithgynhyrchu sy’n effeithlon o ran ynni. Ystyriaethau diwedd oes ac ailgylchu. Dadansoddiad cylch bywyd.
- Ynni Adnewyddadwy: Technolegau arloesol er mwyn gwella effeithlonrwydd ynni, defnyddio adnoddau adnewyddadwy a lleihau traweffaith amgylcheddol. Technolegau hydrogen.
- Systemau Ynni: Gwaith ymchwil wedi’i fwriadu ar gyfer gwella cynhyrchu ynni, storio a systemau dosbarthu, gan gynnwys datrysiadau grid clyfar.
- Gyriannau Trydanol: Datblygiadau mewn peiriannau trydan, gyriannau a rheolwyr sy’n cefnogi trosglwyddo i drydaneiddio mewn cludiant, gweithgynhyrchu a sectorau eraill.
- Antenau: Gwaith ymchwil blaengar mewn dylunio antenâu, optimeiddio, a deunyddiau i gefnogi gwell cyfathrebu a thechnolegau di-wifr.
- Roboteg: Archwilio systemau roboteg newydd, rheolaeth robotaidd AI, systemau ymreolus a rhyngweithiad bodau dynol a robotiaid.
Meini Prawf Cymhwysedd:
- Ar agor i academyddion ac ymchwilwyr ym Mhrifysgol Wrecsam sydd â ffocws ar gynhyrchu gwybodaeth newydd.
- Mae’n rhaid i’r ymchwil alinio’n uniongyrchol gydag un neu fwy o’r meysydd ffocws rhestredig.
- Mae’n rhaid i brosiectau fod â deilliannau eglur, mesuradwy y gellir eu defnyddio i ddatblygu’r maes ymhellach.
- Mae’n rhaid i’r arweinydd fod yn aelod o staff yn y Brifysgol, ond mae anogaeth gref i sicrhau cyd-arweinwyr sy’n fyfyrwyr a phartneriaid o fewn diwydiant.