.jpg)
Grantiau Gweithdy Ymchwil
- Galwad Agored rhwng 1af Hydref 2025 - 30ain Ebrill 2026
- Cyllid Ar Gael: Hyd at £500
- Cyfyngiad y Cais: Un cais ar gyfer pob person bob blwyddyn academaidd
- Adrodd: Mae’n rhaid cyflwyno adroddiad cynnydd erbyn 1af Mehefin
- Amodau: Mae’n rhaid i’r arian gael ei wario erbyn 1af Gorffennaf
- Amserlen: Dylech ganiatáu 5 diwrnod gwaith o gyflwyno eich cais er mwyn derbyn llythyr canlyniad
Mae Grant Gweithdy Ymchwil wedi’i fwriadu i gefnogi gweithdai sy’n meithrin datblygu gweithgarwch ymchwil newydd ac arloesol. Ein nod pennaf yw annog archwilio syniadau ymchwil newydd sy’n datblygu a datblygu agendâu ymchwil newydd, megis cysyniadaeth gynnar ynghlwm wrth gynnig grant yn y dyfodol.
Mae’r grant hefyd yn ceisio hwyluso ffurfio rhwydweithiau a phartneriaethau newydd, a hynny oddi mewn a thu hwnt i’r sefydliad fel ei gilydd, er mwyn cymell cydweithrediad rhyng-ddisgyblaethol a thraws-sector. Yn ogystal, gellir defnyddio’r ariannu er mwyn cefnogi gweithdai neu grwpiau ffocws sy’n cynnwys cyfranogwyr o brosiectau ymchwil sy’n bodoli eisoes, er mwyn casglu data neu gyd-gynllunio cynlluniau ymchwil yn y dyfodol sy’n cyfrannu at lywio cyfeiriadau newydd ym maes ymchwil.
Cymhwystra
- Ar agor i staff academaidd, ymchwilwyr a myfyrwyr ymchwil ym Mhrifysgol Wrecsam
- Caniateir un cais ar gyfer pob person bob blwyddyn academaidd yn unig
- Rhaid i ymgeiswyr arddangos yn eglur sut mae’r gweithgarwch arfaethedig yn cefnogi creu neu lywio cyfeiriadau ymchwil neu gydweithrediadau newydd neu sy’n cyfrannu at gasglu data gan brosiect ymchwil presennol.