.jpg)
Grantiau Ymchwil Teithio
- Galwad Agored
- Swm: Hyd at £100
- Cyfyngiad y Cais: Un cais ar gyfer pob person bob blwyddyn academaidd
- Adrodd: Adroddiad adborth yn dilyn gweithgaredd ymchwil
- Amserlen: Dylech ganiatáu 5 diwrnod gwaith o gyflwyno eich cais er mwyn derbyn llythyr canlyniad
Bwriad y Grant Ymchwil Teithio yw cefnogi teithiau byr, wedi’u targedu sy’n cyfrannu’n uniongyrchol at ddatblygu prosiect ymchwil neu syniad sy’n bodoli eisoes. Gellir defnyddio’r grant er mwyn hwyluso casglu data ymchwil, er enghraifft, drwy waith maes, ymweliadau safle, arbrofion neu ymgysylltiad cyfranogwyr, yn ogystal ag er mwyn annog neu archwilio cydweithrediadau ymchwil posib.
Mae’n bosib y bydd y cydweithrediadau yma yn arwain at brosiectau ar y cyd yn y dyfodol, ceisiadau ariannu neu gyfleoedd i gyfnewid gwybodaeth. Yn ogystal, mae’n bosib y defnyddir yr ariannu er mwyn talu am gostau teithio’r cyfranogwr, lle mae’n angenrheidiol er mwyn galluogi eu hymwneud mewn gweithgareddau ymchwil megis cyfweliadau, grwpiau ffocws neu sesiynau cyd-greu. Yn gyffredinol, bwriad y grant yw galluogi gweithgaredd ymchwil cyfnod cynnar ac adeiladu perthnasoedd a fyddai fel arall yn anodd i’w rhoi ar waith oherwydd adnoddau cyfyngedig.
Meini Prawf Cymhwysedd
- Ar agor i staff academaidd, ymchwilwyr a myfyrwyr ymchwil ym Mhrifysgol Wrecsam
- Mae’n rhaid i’r teithio fod yn uniongyrchol gysylltiedig gyda syniad ymchwil neu brosiect sy’n bodoli eisoes
- Caniateir un cais ar gyfer pob person bob blwyddyn academaidd yn unig
- Ni ellir defnyddio’r ariannu hwn ar y cyd â’r Wobr Cyfraniad i Gynhadledd ac nid yw’n gallu cefnogi teithio ar gyfer mynychu cynhadledd neu roi cyflwyniad ynddi yn unig.