Hyfforddiant Effaith
Edrychwch ar rai o'r sesiynau hyfforddiant effaith a ddarperir gan y Swyddfa Ymchwil. Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu os hoffech drafod rhagor o gyfleoedd hyfforddiant effaith, cysylltwch â researchoffice@wrexham.ac.uk.
Ymgorffori Effaith yn eich cais am grant ymchwil
Mae'r Rheolwyr Datblygu a'r Rheolwyr Effaith Ymchwil yn eich helpu i ddeall pam a sut y dylech gynnwys effaith yn eich ceisiadau am gyllid. Cynyddwch eich siawns o lwyddo trwy gynhyrchu cynnig ariannu ymchwil cystadleuol sy'n dangos eich bod wedi ystyried effaith eich gwaith yn y byd go iawn.