Cyfathrebu Prosiect Ymchwil
-(1).jpg)
Gall cyfathrebu ymchwil ymddangos yn frawychus, yn waith caled ac yn heriol ar adegau, yn enwedig os yw'r ymchwil yn gymhleth, yn amrywiol ac yn debygol o fod wedi cymryd nifer of flynyddoedd.
Gall fod yn anodd nodi cysyniadau allweddol ac effaith ddisgwyliedig yr ymchwil, sydd yn allweddol i gyfathrebu’n effeithiol i wahanol bartïon â diddordeb.
Fodd bynnag, mae gan gynllunio ar gyfer ac ymgysylltu â chyfathrebu ar gyfer y cylch bywyd ymchwil lawer o fuddion:
Enw da
Mae sicrhau fod gan gyd-weithwyr, cymheiriaid, myfyrwyr a’r gymuned addysg ehangach yr holl wybodaeth am weithgareddau ymchwil a chanlyniadau yn gwella enw da a chyfleoedd ymchwil yn y dyfodol. Mae’n helpu i ddenu myfyrwyr, partneriaid a chyd-ymchwilwyr.
Gall ymgysylltu cyhoeddus â chymunedau nad ydynt yn academaidd gynorthwyo gydag ‘effaith byd go iawn’ ymchwil. Gall gynyddu cefnogaeth ar gyfer nodau ymchwil a chanlyniadau disgwyliedig a gall hefyd ehangu’r gronfa o gyfranogwyr posibl.
Cysylltiadau
Mae sicrhau fod gan bartïon sydd â diddordeb ddealltwriaeth a gwybodaeth o ymgymeriadau ymchwil yn helpu i ehangu rhwydweithiau a chyfleoedd cyd-weithio. Gall hefyd agor drysau i amrywiaeth o gyfleoedd megis fel siaradwr gwadd, rolau ar baneli a phenodiadau ymgynghorol.
Dylanwad
Gall cyfathrebu ymchwil yn effeithiol alluogi cyrraedd ac ymgysylltu â llunwyr polisi ac unigolion dylanwadol allweddol, gan ddarparu cyfle i siapio a dylanwadu ar bolisïau.
Gwelededd
Gall rhannu nodau ymchwil, amcanion, dulliau, canlyniadau a fwriedir a’r potensial ar gyfer effaith y tu hwnt i’r byd academaidd helpu i ledaenu’r neges. Gall gefnogi’r diwylliant ymchwil o fewn yr adran, y gyfadran neu’r sefydliad ehangach ac mae’n helpu i ddarparu tystiolaeth ar gyfer craffu allanol.
Cyllid
Gall gallu cyfleu prosiect ymchwil yn llwyddiannus helpu i sicrhau cyllid gan ei fod yn galluogi'r rhai sy'n dyfarnu'r cyllid i ddeall yr ymchwil a'r effaith bosibl yn glir. Gall cyfathrebu ar gyfer yr ymchwil gyfan ochr yn ochr â lledaenu effeithiol hefyd gefnogi cyfleoedd ariannu yn y dyfodol.
Dysgwch fwy yn y ddogfen ganllaw isod.